Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymrwymiad Sir y Fflint i gyfleoedd chwarae
Published: 27/05/2025
Mae T卯m Datblygu Chwarae Sir y Fflint wedi ymrwymo i sicrhau fod pob plentyn ar draws y sir yn cael mynediad at gyfleoedd chwarae yn eu hysgolion a鈥檜 cymunedau lleol.
Yn hanesyddol mae鈥檙 t卯m wedi canolbwyntio ar ddarparu cynllun chwarae mawr dros yr haf sy鈥檔 cynnwys dros 40 o safleoedd yn Sir y Fflint. Fodd bynnag, yn sgil y twf a鈥檙 datblygiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae鈥檙 t卯m chwarae wedi ehangu i gynnig darpariaeth drwy gydol y flwyddyn mewn ysgolion a chymunedau, a gweithio ar y cyd 芒 gwasanaethau eraill.
Yn ystod Hanner Tymor Mis Mai, mae鈥檙 T卯m Chwarae yn cynnal gweithgareddau cymunedol yn y mannau canlynol; Penyffordd (Treffynnon), Mostyn 鈥 Maes Pennant, Bwcle - Princess Avenue, Holway 鈥 Meadowbank a鈥檙 Wyddgrug - Parkfields. Bydd rhai gweithgareddau鈥檔 cael eu cynnal yn y bore a rhai yn y prynhawn. Bydd byrbrydau ar gael ar bob safle.
Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: 鈥淢ae Sir y Fflint yn falch o arwain y ffordd o ran cefnogi chwarae. Mae ein T卯m Datblygu Chwarae yn gweithio鈥檔 ddiflino drwy gydol y flwyddyn i greu cyfleoedd sy鈥檔 caniat谩u i blant archwilio, dychmygu a ffynnu drwy chwarae.鈥澛
鈥淢ae chwarae鈥檔 rhan hanfodol o ddatblygiad plentyn, ond mae hefyd yn allweddol i鈥檞 bywyd bob dydd, felly mae鈥檔 bwysig eu bod yn cael y cyfleoedd hyn mewn mannau diogel ar draws y sir. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod pob plentyn yn Sir y Fflint yn cael cyfle i chwarae鈥檔 ddiogel ac yn rhydd yn eu cymuned.鈥
Mae gan chwarae lawer iawn o fuddion sy鈥檔 hyrwyddo cefnogaeth emosiynol, lles corfforol, sgiliau cymdeithasol ac ymddygiad gwybyddol.聽
Yn ddiweddar, mae鈥檙 t卯m wedi cyflwyno prosiect o鈥檙 enw 鈥楢mser Cinio Rhydd鈥 ledled ysgolion Sir y Fflint. Mae鈥檙 prosiect yn canolbwyntio ar elfen allweddol o chwarae o鈥檙 enw rhannau rhydd - ystod o adnoddau y gellir eu hailddefnyddio wrth chwarae megis teiars, cafnau a pheipiau dwr, defnydd a mwy. Mae Amser Cinio Rhydd yn rhoi cyfle i blant ehangu eu creadigrwydd a datblygu eu sgiliau meithrin t卯m.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i chwarae yn Sir y Fflint, cliciwch yma.