Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Balchder cymunedol yn disgleirio gyda llwyddiant Gwanwyn Glân yr Wyddgrug
Published: 23/05/2025
Mae鈥檙 Wyddgrug wedi dangos ei hysbryd cymunedol anhygoel a鈥檌 ymrwymiad amgylcheddol unwaith eto gyda Gwanwyn Gl芒n 2025.
Dros bythefnos, cydweithiodd breswylwyr, ysgolion, sefydliadau lleol a busnesau i dynnu 1.267 tunnell o wastraff oddi ar strydoedd, parciau, strydoedd cefn a mannau cyhoeddus y dref.
Wedi鈥檌 drefnu gan Gyngor Tref yr Wyddgrug, mewn partneriaeth gyda Mold Plastic Reduction, protffolio Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir y Fflint a hyrwyddiadau鈥檙 farchnad, ac fel rhan o ymgyrch ehangach Gwanwyn Gl芒n Cymru drwy Cadw Cymru鈥檔 Daclus, daeth y digwyddiad 芒鈥檙 gymuned ynghyd gyda nod gyffredin - gwneud yr Wyddgrug yn dref lanach a mwy deniadol.
Gwelodd ganolbwynt yr ymgyrch, Dydd Sadwrn Mawr (29 Mawrth), wirfoddolwyr yn casglu 330kg o sbwriel mewn pedair awr, yn ystod ymgyrch glanhau ar raddfa fawr ledled y dref. Torchodd breswylwyr, disgyblion a sefydliadau lleol eu llewys a gwneud effaith sylweddol - gan ddarparu pwer ymdrech gyfunol, gyda nifer o wirfoddolwyr yn mynd cam ymhellach drwy ddidoli鈥檙 gwastraff a gasglwyd i鈥檞 ailgylchu.
Gyda Mold Plastic Reduction, Cadw Cymru鈥檔 Daclus a Chyngor Sir y Fflint yn ymgysylltu gyda鈥檙 cyhoedd am bwysigrwydd lleihau gwastraff a sbwriel, rhoddodd ReSource arddangosiadau byw yn Sgw芒r Daniel Owen, yn dangos sut y gallai plastig a gasglwyd ar y diwrnod ei ailbwrpasu i eitemau defnyddiol. Sbardunodd eu harddangosfa ymarferol chwilfrydedd a brwdfrydedd ymysg cyfranogwyr a phobl oedd yn galw heibio, gan atgyfnerthu gwerth ailgylchu ac ailddefnyddio.
Chwaraeodd fusnesau lleol r么l allweddol, gyda鈥檙 Mad Moo yn tretio gwirfoddolwyr i fyrger am ddim, Ferry Chem Cyf yn cyflenwi bagiau melyn ar gyfer gwastraff ailgylchadwy - gan amlygu cefnogaeth gref busnesau lleol.
Cynhaliwyd ymdrech ysbrydoledig ar ddiwrnod olaf yr ymgyrch, pan ymunodd breswylwyr Stryd y Dwr, Stryd yr Eglwys, Stanley Street a Brook Street i glirio a gwella鈥檙 lonydd cefn rhwng eu cartrefi. Arweiniodd eu hysbryd penderfynol at dynnu 265kg o sbwriel, gan drawsnewid y mannau cudd hyn yn ardaloedd mwy gl芒n a diogel yn y gobaith y byddai鈥檙 gymuned ehangach yn eu parchu wrth symud ymlaen.
Drwy gydol yr ymgyrch pythefnos o hyd, cymerodd ystod eang o unigolion a sefydliadau ran. Cefnogwyd ymdrechion casglu sbwriel gan y P&A Group, Tate & Lyle, Clwb Rygbi鈥檙 Wyddgrug dan 15, Bwrdd Crwn yr Wyddgrug a Bwcle, Clwb Plant yng Nghanolfan Gymunedol Parkfields, Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru, Smurfit Westrock, CPD Yr Wyddgrug, Clickery Financial Cyf, Eglwys Stryd Tyddyn, ac ysgolion lleol, gan gynnwys Dewi Sant a Bryn Gwalia - gan arddangos dyfnder ac amrywiaeth ymrwymiad cymuned yr Wyddgrug.
Uchafbwynt creadigol Gwanwyn Gl芒n oedd y gystadleuaeth cerflun plastig, a oedd yn gwahodd disgyblion i greu gwaith celf yn defnyddio deunyddiau gl芒n, ailgylchadwy鈥檔 unig.聽 Yr enillwyr oedd Thomas a Harlow o Ysgol Bryn Coch, a oedd wedi bachu sylw鈥檙 beirniaid gyda鈥檜 ceisiadau - pysgodyn yn arnofio mewn bocs a morfil disglair - gan arddangos eu dychymyg a鈥檜 perthnasedd amgylcheddol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd, Glyn Banks: 鈥淢ae Glanhau Gwanwyn yr Wyddgrug gymaint mwy na gwaredu sbwriel. Mae鈥檔 sefydlu synnwyr o berchnogaeth, gan ysbrydoli pobl ifanc a chydweithio i adeiladu cymuned gryfach a glanach. Mae鈥檙 canlyniadau yn ardderchog, ac rydym yn hynod falch o bawb a gymerodd rhan.
Mae ymdrechion yr Wyddgrug hefyd yn cyfrannu at yr Ymgyrch Million Mile gan Surfers Against Sewage, a gefnogir yn lleol gan Mold Plastic Reduction, gan ddod ag egni lleol i symudiad y DU cyfan i fynd i鈥檙 afael 芒 llygredd plastig.
Os hoffech chi gefnogi Glanhau Gwanwyn yr Wyddgrug yn 2026, cysylltwch ag events@moldtowncouncil.org.uk