天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn cryfhau llywodraethu hinsawdd gyda model cyflawni newydd i gyflawni sero net erbyn 2030

Published: 20/05/2025

Heddiw, mae Cyngor Sir y Fflint wedi amlinellu datblygiad arwyddocaol yn ei ddull o lywodraethu hinsawdd, gan fabwysiadu model newydd sydd wedi鈥檌 gynllunio i gryfhau鈥檙 dull o gyflawni ac arolygu ei amcanion hinsawdd fel rhan o lwybr difrifol a strwythuredig tuag at gyflawni Sero Net erbyn 2030.

Mae鈥檙 newidiadau, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Richard Jones dan Eitem Agenda 8 yng nghyfarfod y Cyngor Llawn, yn adlewyrchu newid pwyslais oddi wrth graffu mewn pwyllgorau unigol i ymgorffori cyfrifoldebau hinsawdd yn uniongyrchol i bob portffolio Cabinet a gwasanaeth. Nod y Cyngor yw gwneud gweithredu ar yr hinsawdd yn rhan annatod o wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd ar bob lefel o gynllunio gwasanaethau a monitro perfformiad.

O dan y strwythur diwygiedig hwn, ni fydd newid hinsawdd bellach yn cael ei drin fel mater unigol. Yn hytrach, c芒nt eu hintegreiddio ar draws pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol a meysydd gwasanaeth 鈥攇an sicrhau gwell atebolrwydd, ffocws mwy manwl, ac aliniad eglurach gyda鈥檙 llif gwaith a鈥檙 cyfrifoldebau statudol presennol.

Er mwyn hwyluso hyn, caiff Grwp Cydlynu Gwaith Pwyllgorau (CWCG) ei sefydlu. Bydd y grwp hwn yn gyfrifol am ddyrannu a chydlynu them芒u trawsbynciol allweddol鈥攎egis newid hinsawdd, tlodi, a diogelwch cymunedol鈥攇an sicrhau eu bod yn cael sylw priodol o fewn y sianelau craffu a llywodraethu cywir. Bydd y grwp yn cynnwys Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a鈥檙 Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a bydd yn cael ei gadeirio gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i sicrhau tryloywder a goruchwyliad diduedd.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones:

鈥淣id yw ein hymrwymiad i Sero Net erbyn 2030 wedi gwanhau, ac mae鈥檙 esblygiad hwn yn ein model llywodraethu yn ein helpu i gyflawni鈥檙 nod hwnnw yn fwy effeithiol. Trwy ymgorffori cyfrifoldeb dros newid hinsawdd o fewn pob portffolio unigol, rydym yn gwneud yr agenda鈥檔 ganolog i bob penderfyniad polisi, gweithredol ac ariannol ar draws y Cyngor. Mae鈥檙 model hwn yn adlewyrchu aeddfedrwydd ein dull ac yn cydnabod maint yr her sy鈥檔 ein hwynebu.鈥

Bydd y grwp newydd yn cyfarfod bob chwarter, gan ddechrau ym mis Gorffennaf, ac yn adrodd yn flynyddol i鈥檙 Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar ei weithgarwch a鈥檌 ganlyniadau.

Canfu adolygiad o鈥檙 strwythur pwyllgor blaenorol, er bod cynnydd wedi鈥檌 wneud, nid oedd nifer sylweddol o eitemau ar yr agenda鈥檔 cyd-fynd 芒鈥檙 Cylch Gorchwyl a鈥檙 Rhaglen Waith wreiddiol. Mae鈥檙 model diwygiedig yn mynd i鈥檙 afael 芒 hyn drwy integreiddio llywodraethu hinsawdd yn y fframwaith ehangach o oruchwylio gwasanaethau, gan hyrwyddo craffu sy鈥檔 fwy amserol, perthnasol ac atebol.

Yn ogystal 芒鈥檙 gwelliannau gweithredol, mae鈥檙 strwythur newydd yn sicrhau arbediad ariannol bychan drwy ddileu鈥檙 angen am Daliadau Cyfrifoldebau Arbennig (SRAs) ychwanegol, heb gyfaddawdu ar dryloywder nac effeithiolrwydd.

Mae鈥檙 datblygiad hwn yn arwydd o ymrwymiad parhaus Cyngor Sir y Fflint i arwain drwy esiampl yn ymateb y sector cyhoeddus i newid hinsawdd鈥攄rwy ymgorffori cyfrifoldeb amgylcheddol yng nghanol ei swyddogaethau democrataidd a gweinyddol.