天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dyfarnodd y Cyngor Wobr Lluoedd Arfog Aur

Published: 03/04/2025

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ennill y Wobr Aur unwaith eto dan Gynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn am ei gefnogaeth ragorol i gymuned y Lluoedd Arfog.聽 Y wobr aur yw anrhydedd fwyaf y cynllun. Roedd y Cyngor yn un o 23 awdurdod lleol yn y DU a gyflawnodd y wobr hon yn 2019 ac yn un o鈥檙 pedwar awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyflawni鈥檙 wobr.

I gyflawni鈥檙 Wobr Aur, mae鈥檔 rhaid i gyflogwyr ddangos mewn modd rhagweithiol nad yw Cymuned y Lluoedd Arfog yn derbyn anfantais annheg yn y gweithle a chynnig cefnogaeth ac eiriolaeth ar gyfer y gymuned Lluoedd Arfog a chyflogi cyn-filwyr, mae Cymuned y Lluoedd Arfog yn cynnwys milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a鈥檜 teuluoedd.聽 Mae鈥檔 rhaid i sefydliadau ail-ymgeisio bob pum mlynedd i gynnal eu statws Gwobr Aur.Cllr David Evans Armed Forces Award.jpg

Derbynodd Cynghorydd David Evans, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint, y wobr ar ran y Cyngor a鈥檙 Brecwast Busnes SAFE ddydd Mawrth, 1 Ebrill yng Nghanolfan Milwyr Wrth Gefn Queensferry, ynghyd 芒 chyflogwyr eraill yn Sir y Fflint sydd wedi cyflawni鈥檙 wobr fawreddog hon.聽

Meddai鈥檙 Cynghorydd Evans: 鈥淩ydym ni鈥檔 hynod o falch ein bod ni wedi derbyn y Wobr Aur yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad y Cyngor i gefnogi cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a chymuned y Lluoedd Arfog. Mae cael ein gweld fel cyflogwr enghreifftiol yn anrhydedd fawr. Ers derbyn y wobr yn 2019, rydym wedi cynnal ein hymrwymiad a pharhau i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog.聽 Fel cyn-filwr, rwy鈥檔 deall y rhwystrau y mae Cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hwynebu ac yn ymwybodol o鈥檙 gwahaniaeth gwirioneddol y gall cyflogwyr cefnogol ei wneud i fywydau pobl.聽 Mae鈥檔 wych gweld cyflogwyr eraill yn Sir y Fflint yn cefnogi鈥檙 achos gwych hwn."