天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi wyneb newydd ar y ffordd ym Mrychdyn

Published: 27/03/2025

Sicrhawyd cyllid i roi wyneb newydd ar yr A5104, Chester Road, Brychdyn.

Bydd y gwaith, sydd i ddechrau ar ddydd Llun, 31 Mawrth a disgwylir iddo gymryd tua thair wythnos, yn digwydd rhwng y gylchfan ger Eglwys y Santes Fair a鈥檙 gylchfan ger Aldi.

Er mwyn hwyluso鈥檙 gwaith, bydd y ffordd ar gau a bydd llwybr gwyro gydag arwyddion ar waith rhwng 7pm a 5am er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a defnyddwyr y ffordd.

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, ond gallai fod peth oedi.

Mae Cyngor Sir y Fflint a鈥檔 contractwr a benodwyd, Tarmac Trading Ltd, yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw oedi a tharfu y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi.