Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dweud Eich Dweud ar Ddyfodol Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru
Published: 26/03/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal dwy sesiwn wybodaeth galw heibio i breswylwyr gael dysgu mwy am y Cynllun Cludiant Rhanbarthol.
Fel rhanbarth wledig gyda rhwydweithiau rheilffyrdd a ffyrdd yn aml o dan bwysau, nid oes llawer o amheuaeth bod angen gwella trafnidiaeth a chysylltedd lleol.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi lansio ymgynghoriad 12 wythnos, gan roi cyfle i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr lywio dyfodol teithio yn y rhanbarth.
Fel rhan o鈥檙 ymgynghoriad, mae鈥檙 Cyngor yn gwahodd preswylwyr i gael gwybod mwy am y Cynllun Cludiant Rhanbarthol a chwblhau鈥檙 arolwg ar 1 Ebrill yng Nghanolfan Treffynnon yn Cysylltu rhwng 3pm a 6.30pm ac ar 8 Ebrill yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy rhwng 3pm a 6.30pm.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru, sydd hefyd yn gwasanaethu fel Cyd-Bwyllgor Corfforedig y rhanbarth 鈥 gyda chyfrifoldeb dros gynllunio trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir strategol a gwella lles economaidd, yn gwahodd adborth ar gynllun drafft Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Mae'r ddogfen yn nodi polis茂au ac ymyriadau strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf, gan gwmpasu pob dull o deithio, gan gynnwys rheilffordd, ffyrdd, bws, cerdded a beicio, gyda鈥檙 nod o ddarparu gwell opsiynau teithio, gwella cysylltedd digidol, a lleihau effeithiau amgylcheddol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant, y Cynghorydd Glyn Banks: 鈥淢ae cysylltiadau cludiant da yn hanfodol i鈥檔 cymunedau yma yn Sir y Fflint felly rydw i鈥檔 annog preswylwyr i ddweud eu dweud.
鈥淏yddem wrth ein boddau鈥檔 eich gweld yn ein sesiynau galw heibio ym mis Ebrill, ond os nad ydych yn gallu mynychu, gallwch gymryd rhan drwy gwblhau鈥檙 arolwg ar-lein.鈥
Nod y cynllun yw llunio polisi a buddsoddiad trafnidiaeth hyd at 2030, gan ddisodli cynlluniau trafnidiaeth leol presennol er mwyn听 cyd-fynd 芒 blaenoriaethau cenedlaethol.
Mae'n cael ei ystyried yn hanfodol i sicrhau bod Gogledd Cymru yn cwrdd 芒 heriau economaidd yn y dyfodol, yn cefnogi teithio cynaliadwy, ac yn cyfrannu at amcanion hinsawdd.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 14 Ebrill 2025, a gellir hefyd ei gwblhau ar-lein yma.