天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cartref gofal yn y Fflint ar y trywydd iawn i agor yn ystod yr haf

Published: 18/03/2025

Mae gwaith adeiladu cartref gofal newydd Sir y Fflint yn dirwyn i ben ac mae ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau yn ystod yr haf.

Mae gwaith ar Dy Croes Atti yn y Fflint yn datblygu鈥檔 gyflym ac er gwaetha鈥檙 tywydd gwael ym mis Rhagfyr a mis Ionawr, mae鈥檙 to, ac offer trydanol, yn yr adeilad bellach.

Mae鈥檙 prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Willmott Dixon a Llywodraeth Cymru a bydd yn darparu cartref i 56 o bobl hyn ar safle hen ysbyty cymunedol.

Bydd hyn yn golygu bod cartref gofal presennol yn yr ardal yn cael ei adleoli a鈥檌 ymestyn er mwyn darparu mwy o le na鈥檙 31 gwely sydd yno ar hyn o bryd. Bydd BIPBC a thimau gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal iechyd integredig.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles: 鈥淢ae鈥檙 adeilad yn edrych yn wych ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at ei weld wedi鈥檌 gwblhau ac yn barod i groesawu ein preswylwyr. Bydd hwn yn ddarpariaeth fodern, gyfforddus a chroesawgar i bobl Sir y Fflint. Diolch i鈥檔 partneriaid am helpu i wireddu鈥檙 prosiect hwn.鈥

Bydd y cam nesaf yn cynnwys addurno, gwaith coed a gosod y lloriau.

Dywedodd Mike Lane, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Willmott Dixon: 鈥淢ae ein timau鈥檔 ddigon breintiedig i barhau i gael eu gwahodd i dreulio amser gyda phreswylwyr cartref gofal Croes Atti, teuluoedd a staff, felly rydym yn gwybod pa mor bwysig yw鈥檙 prosiect hwn o ran darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o鈥檙 radd flaenaf i gymuned y Fflint.鈥

聽鈥淩ydym yn falch o ddweud ein bod yn ymrwymedig i greu etifeddiaeth gadarnhaol barhaus yn y gymuned hon, ynghyd 芒 Chyngor Sir y Fflint a phob un o鈥檔 partneriaid. Hyd yma, rydym wedi creu 13 o gyfleoedd cyflogaeth newydd i breswylwyr lleol, gan gynnwys tri ar gyfer rhai a oedd yn ddi-waith, a dau ar gyfer rhai sy鈥檔 gadael carchar. Rydym wedi darparu mwy na 200 awr o weithgareddau addysgol i bobl ifanc a threulio mwy na 170 awr yn gwirfoddoli i gefnogi mentrau cymunedol lleol.鈥

Ychwanegodd Michelle Greene, Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig y Dwyrain ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: 鈥淢ae鈥檔 gyffrous gallu gweithio mewn partneriaeth 芒鈥檔 cydweithwyr yng Nghyngor Sir y Fflint er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel mewn cyfleusterau o鈥檙 radd flaenaf i鈥檙 preswylwyr.鈥

Mae鈥檙 cynllun 拢18 miliwn yn cael ei ariannu trwy Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Llywodraeth Cymru a rhaglenni cyfalaf y Gronfa Tai 芒 Gofal a thrwy raglen gyfalaf Cyngor Sir y Fflint.

Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: 鈥淢ae鈥檔 wych gweld y cynnydd arbennig yn adeilad Ty Croes Atti. Bydd y prosiect pwysig hwn yn helpu i roi hwb i鈥檔 capasiti cymunedol ac mae鈥檔 enghraifft wych o gydweithio i ddarparu gwasanaethau i bobl Sir y Fflint. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld y prosiect wedi鈥檌 gwblhau yn y dyfodol agos.鈥

Mae Cyngor Sir y Fflint yn recriwtio gweithwyr gofal a chefnogi ar hyn o bryd i ymuno 芒鈥檔 timau ymroddedig a bod yn seiliedig yn adeilad Ty Croes Atti pan fydd yn agor yn yr haf 2025. Bydd pob aelod newydd o鈥檙 t卯m yn cael cyflwyniad sefydlu cynhwysfawr a rhaglen o hyfforddiant, a byddant yn elwa o gefnogaeth ac arweiniad t卯m rheoli profiadol.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd cyffrous hyn, anfonwch e-bost at socialservicesrecruitment@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 733598.