Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyflawniadau Newid hinsawdd Cyngor Sir y Fflint hyd yma
Published: 07/03/2025
Yn 2019, daeth galwad gan Lywodraeth Cymru i鈥檙 sector cyhoeddus fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Yn dilyn y datganiad hwn, penderfynodd Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar Strategaeth Newid Hinsawdd ym mis Rhagfyr 2019 a fyddai鈥檔 gosod amcanion allweddol a chamau i greu Cyngor carbon niwtral erbyn 2030.听听
听
Mae adolygiad diweddar o鈥檙 strategaeth yn cynnwys casgliad newydd a gwell o ddata, yn ogystal 芒 dealltwriaeth gliriach o gynnydd, gyda chyfrifiadau a methodoleg, ynghyd 芒 pholisi a chanllawiau mwy diweddar.
听
Mae Strategaeth Newid Hinsawdd 2025-30 yn manylu ar waith y Cyngor a wnaed hyd yma i lywio鈥檙 cyngor tuag at ei nod carbon sero erbyn 2030.听
听
Gallai hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:听
听
鈥 Rhesymoli yst芒d y Cyngor, gan gynnwys symud gweithwyr i adeilad modern, mwy effeithlon o ran ynni yn Ewlo;
鈥 Adeiladu ac adnewyddu ysgolion addas ar gyfer y dyfodol drwy'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif;
鈥 Disodli goleuadau stryd y Cyngor gyda lampau LED sy'n defnyddio cryn dipyn yn llai o drydan;
鈥 Cyflwyno cerbydau ailgylchu trydan i鈥檙 fflyd;
鈥 Darparu cynlluniau llwybrau Teithio Llesol ledled y sir a llwybrau mwy diogel yn gymuned o amgylch ysgolion;
鈥 Adolygiad o Strategaeth Caffael y Cyngor gyda thema 鈥楥arbon鈥 allweddol yn nodi ymrwymiadau鈥檙 Cyngor i鈥檞 gyflenwyr;
鈥 Datblygiad Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol 15 mlynedd gyda tharged o gyflawni gorchudd canopi trefol o 18% erbyn 2033;
鈥 Cydweithio gyda phartneriaid i gynhyrchu ynni adnewyddadwy o鈥檌 wastraff ac ailgylchu, er mwyn ei atal rhag mynd i safle tirlenwi.
听
Mae鈥檙 camau hyn wedi helpu鈥檙 Cyngor i leihau ei allyriadau carbon ar draws pob thema allweddol o fewn ei Strategaeth Newid Hinsawdd.
听
Meddai Chris Dolphin - Aelod Cabinet yr Economi, yr Amgylchedd a Hinsawdd:听
鈥淵n dilyn adolygiad o鈥檙 strategaeth, a drwy gynnwys mesurau newydd, mae鈥檔 braf gweld y cynnydd y mae鈥檙 Cyngor wedi鈥檌 wneud mewn perthynas 芒 newid hinsawdd.听 听Mae鈥檔 dangos bod gwaith ac ymroddiad swyddogion, preswylwyr Sir y Fflint a chraffu drwy brosesau democrataidd yn anfon y sir yn y cyfeiriad cywir i fod yn Gyngor carbon niwtral.鈥
听