Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynlluniau ar gyfer ysgol Gatholig newydd yn Sir y Fflint
Published: 12/02/2025
Bydd cynnig i drawsnewid addysg Gatholig yn Sir y Fflint yn cael ei ystyried gan y Cabinet yn ddiweddarach y mis hwn.
Fel rhan o raglen moderneiddio ysgolion y Cyngor, mae buddsoddiad wedi ei nodi mewn partneriaeth ag Esgobaeth Gatholig Wrecsam a Llywodraeth Cymru. Byddai鈥檙 cynnig yn cyfuno nifer o ysgolion a chreu ysgol newydd.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn adeiladu ysgolion newydd, yn ailfodelu ac yn ailddatblygu adeiladau i ddarparu amgylchedd dysgu ysbrydoledig a modern i fyfyrwyr, staff, rhieni/gofalwyr a鈥檙 gymuned ehangach.
Mae mwy na 拢140 miliwn wedi ei fuddsoddi dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn yst芒d ysgolion Sir y Fflint.
Mae鈥檙 cynnig diweddaraf yn cynnwys cau Ysgol Gynradd Gatholig St Anthony, Ysgol Gynradd St David, Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn ac agor ysgol Gatholig 3-18 oed newydd.
Yn dilyn asesiad o bob safle, bydd yr ysgol newydd arfaethedig yn cael ei datblygu ar safleoedd Sant Richard Gwyn a Santes Fair yn y Fflint.
Gofynnir i aelodau鈥檙 Cabinet ystyried y cynigion a chytuno i gyhoeddi ymgynghoriad ffurfiol gyda budd-ddeiliaid allweddol.
Mae鈥檙 cynllun hefyd yn cynnwys cau St Anthony erbyn Medi 2026 gan fod y gostyngiad yn nifer y disgyblion yn ei gwneud yn anghynaliadwy.
Dywedodd Claire Homard, y Prif Swyddog Addysg:聽 鈥淩ydym yn gweithio gyda鈥檙 Esgobaeth i sicrhau bod gennym strategaeth ragweithiol ar gyfer addysg gynaliadwy o safon uchel yn y dyfodol.
鈥淎r hyn o bryd mae gennym broblem sylweddol o ran lleoedd gwag sy鈥檔 anghynaliadwy yn yr hirdymor. Mae鈥檙 cynnig hwn yn gyfle i adfywio addysg a rhoi鈥檙 cyfleoedd gorau posibl i ddysgwyr.鈥
Dywedodd yr Esgob Peter Brignall o Esgobaeth Wrecsam: 鈥淩ydw i a鈥檙 Esgobaeth yn cefnogi鈥檙 cynllun hwn. Rwy鈥檔 falch o gael gweithio mewn partneriaeth 芒 Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru i sicrhau鈥檙 cyfle i ysgolion Catholig yn Sir y Fflint i ddarparu ar gyfer y teuluoedd hynny sydd eisiau addysg ffydd o鈥檙 safon uchaf a chyfle i鈥檔 pobl ifanc.鈥
Tra bod yr adeilad newydd yn cael ei gymeradwyo a鈥檌 adeiladu, bydd bob ysgol a effeithir gan y cynnig 3-18 yn parhau i weithredu fel sefydliadau ar wah芒n ar eu safleoedd ysgol unigol.
I gael mwy o wybodaeth am ein rhaglen moderneiddio ysgolion, ewch i鈥檔 .