Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynlluniau moderneiddio ysgolion ar gyfer Saltney
Published: 11/02/2025
Cynnig i gael ysgol gynradd newydd yn Saltney fel rhan o raglen foderneiddio鈥檙 Cyngor.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn adeiladu ysgolion newydd, yn ailfodelu ac yn ailddatblygu adeiladau i ddarparu amgylchedd dysgu ysbrydoledig a modern i fyfyrwyr, staff, rhieni/gofalwyr a鈥檙 gymuned ehangach.
Mae mwy na 拢140 miliwn wedi ei fuddsoddi dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn yst芒d ysgolion Sir y Fflint.
Fel rhan o barhad y rhaglen, nodwyd buddsoddiad ar gyfer yr ysgolion cynradd yn Saltney.
Er mwyn sicrhau鈥檙 cyllid sydd ei angen ar gyfer buddsoddiad cyfalaf ar gyfer Saltney, cynigir cau a chyfuno Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Wood Memorial Saltney, sydd ymysg yr ysgolion a sgoriodd uchaf o ran bod angen gwaith moderneiddio a buddsoddiad yn y portffolio addysg.
Byddai鈥檙 ysgol cyfrwng Saesneg 3-11 arfaethedig yn aros ar ddau safle ar wah芒n yn y tymor byr tra bod ysgol newydd yn cael ei datblygu ar safle presennol Saltney Wood Memorial.
Aseswyd y ddau safle ar gyfer datblygiad posib, fodd bynnag, dewiswyd Saltney Wood Memorial fel y dewis a ffefrir oherwydd ei hyfywedd fel cyfle i ddatblygu, maint y safle a鈥檌 safle amlwg yn y dref.
Dywedodd Claire Homard, y Prif Swyddog Addysg:聽 鈥淢ae rhaglen moderneiddio ysgolion y Cyngor wedi gwneud cynnydd da o ran moderneiddio ein hyst芒d ysgolion, yn bodloni鈥檙 galw am leoedd ac yn cynyddu lleoedd i ddisgyblion ble fo angen, gan gynnwys darpariaeth blynyddoedd cynnar.
鈥淩haid i ni sicrhau bod gennym ysgolion da yn y lleoliadau cywir sy鈥檔 gallu darparu addysg o safon. Mae鈥檙 cynnig hwn yn gyfle gwych i sicrhau bod gan ddysgwyr yn Saltney y cyfleoedd gorau posib er mwyn iddynt gyrraedd eu potensial llawn.
Byddai鈥檙 buddsoddiad hefyd yn cynnwys adolygiad o lwybrau diogel i ysgolion. Pe bai angen, cyflwynir buddsoddiad i wella llwybrau cerdded, croesfannau a聽 mesurau gostegu traffig i sicrhau y bodlonir y safonau diogelwch angenrheidiol.
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo dechrau鈥檙 ymgynghoriad ffurfiol ar y cynlluniau ac i swyddogion gyflwyno achos busnes amlinellol i Lywodraeth Cymru.