Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025/26
Published: 10/02/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu rhyddhad ardrethi busnes o 40% i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch o fis Ebrill 2025, wedi鈥檌 gapio ar 拢110,000 fesul busnes ar draws Cymru.
Mae hyn yn ychwanegol at y cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach presennol.
Mae tua 800 o fusnesau yn Sir y Fflint y disgwylir iddynt fod yn gymwys fel rhan o鈥檙 pecyn ariannu 拢3 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol: 鈥淩wy鈥檔 hynod o falch bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ein busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch lleol.聽Mae canol ein trefi鈥檔 chwarae rhan hanfodol i gefnogi cymunedau a bydd y pecyn cefnogi hwn yn helpu busnesau yn y sector hwn am 12 mis arall."
Bydd ar bob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch, yn cynnwys y rhai sy鈥檔 ei gael eisoes, angen llenwi ffurflen gais arlein yn i fanteisio ar gynllun rhyddhad 2025/26.