天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Safonau Masnach Sir y Fflint yn erlyn garddluniwr

Published: 17/01/2025

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Sir y Fflint wedi llwyddo i erlyn garddluniwr a rannodd adolygiadau a lluniau ffals gan gwsmeriaid ar gyfryngau cymdeithasol i ddenu cwsmeriaid, yn ogystal 芒 chyflwyno鈥檌 hun fel masnachwr cymwys a phroffesiynol pan mai鈥檙 gwrthwyneb oedd yn wir.聽

Fe blediodd Brian Oxton o Drury Lane, Bwlce a fasnachodd dan yr enw Oasis Landscapes and Bespoke Chester, yn euog i un cyhuddiad o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg oedd yn ymwneud 芒 2 ddioddefwr.

Yn yr achos cyntaf, cafodd Mr Oxton ei gyflogi i wneud llawer o waith yn yr ardd gefn, yn cynnwys symud ty haf. Er ei fod wedi cael 拢9000 ac wedi cytuno ar amserlen ar gyfer y gwaith, dim ond yn achlysurol y trodd t卯m Mr Oxton i fyny, ac roedd safon y gwaith a wnaed mor wael nad oedd llawer o werth iddo.

Fe gysylltodd dioddefwr nesaf Mr Oxton ag o i wneud gwaith oedd yn cynnwys creu ardal decin a chodi pergola. Cawsant wybod y byddai鈥檙 gwaith yn para am 6 diwrnod, serch hynny, fe gymerodd misoedd, a chafodd y gwaith erioed ei gwblhau. Roedd safon y gwaith yn isel iawn, ac roeddynt yn teimlo bod Mr Oxton wedi eu camarwain i gredu ei fod yn fasnachwr cymwys a phroffesiynol a oedd yn gallu cwblhau鈥檙 gwaith yn brydlon.

Yn ystod yr ymchwiliad hefyd, fe ddaeth hi鈥檔 amlwg bod gan Mr Oxton gardiau masnachwr oedd yn cynnwys adolygiadau cadarnhaol am ei waith yr oedd o wedi鈥檜 hysgrifennu ei hun, ynghyd ag adolygiadau eraill ar-lein oedd wedi鈥檜 postio gan bobl o du allan i鈥檙 DU.聽聽 Roedd yna hefyd luniau o waith yr oedd Mr Oxton yn hawlio yr oedd wedi'i wneud, ond fe lwyddwyd i brofi mai gwaith cwmn茂au eraill oedd y lluniau.

Gan ddedfrydu Mr Oxton, dywedodd y Barnwr Parry: 鈥淓r gwaethaf eich datganiadau mae hi鈥檔 amlwg eich bod chi鈥檔 dwyllwr.鈥

Fe aeth yn ei flaen i ddweud bod y twyll yn helaeth a bod safon y gwaith yn isel iawn. Rhoddodd ddedfryd o 8 mis i Mr Oxton, wedi鈥檌 ohirio am 12 mis, cyrffyw y mae鈥檔 rhaid cadw ato rhwng 8pam a 6am, yn ogystal ag 80 awr o waith di-d芒l. Fe gydnabuwyd fod Mr Oxton wedi talu 拢13,000 mewn iawndal a chostau erlyn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell: 鈥淩oedd pledio鈥檔 euog a鈥檙 gosb a roddwyd yn yr achos hwn yn addas ar gyfer achos lle nid yn unig defnyddiodd y masnachwr adolygiadau ffals, ond hefyd fe geisiodd hawlio bod y gwaith a gwblhawyd gan rywun arall yn waith ganddo fo ei hun, ac roedd safon y gwaith yn isel iawn gan gael effaith niweidiol ar gwsmeriaid.聽

鈥淢ae鈥檙 achos yma yn dangos sut mae Gwasanaeth Diogelu Busnes a鈥檙 Gymuned Sir y Fflint yn fodlon ac yn gallu cymryd y camau angenrheidiol i ddod a thwyllwyr o鈥檙 math yma ger bron y llysoedd a sicrhau eu bod yn cael eu cosbi, a gobeithio na fydd modd iddynt gymryd mantais ar aelodau diamddiffyn eraill o鈥檙 gymuned yn Sir y Fflint. Mae鈥檙 gwasanaeth yma鈥檔 parhau i ymchwilio i honiadau o fasnachwyr twyllodrus sy鈥檔 gweithio yn y Sir.鈥