Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd 2025
Published: 14/01/2025
Fe hoffai Cyngor Sir y Fflint atgoffa preswylwyr i adnewyddu eu tanysgrifiadau ar gyfer Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd y Cyngor sy鈥檔 ailddechrau 1 Mawrth 2025 ac yn cael ei gynnal tan 28 Tachwedd 2025.听
Gall preswylwyr gofrestru ar gyfer y cynllun unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond rydym yn annog pobl i gofrestru'n fuan er mwyn sicrhau eu bod yn elwa o'r gwasanaeth casglu llawn yn ystod y tymor, yn ogystal 芒'r pris tanysgrifiad gostyngol sydd ar gael ar neu cyn 27 Chwefror 2025.听 Mae tanysgrifiadau cyn y dyddiad hwn, neu ar-lein trwy gydol y tymor yn 拢35 y bin. Ar 么l 3 Mawrth 2025, bydd y pris sylfaenol yn 拢38 y bin (os nad ydych yn talu ar-lein).听
Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth unrhyw bryd, trwy fynd i wefan y Cyngor, ein ffonio ar 01352 701234 neu ymweld 芒鈥檆h Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu leol.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint:听鈥淲rth i ni edrych ymlaen at dymor 2025, fe hoffwn annog preswylwyr i gofrestru鈥檔 fuan ar gyfer y gwasanaeth poblogaidd iawn hwn fel eu bod yn cael budd o鈥檙 gwasanaeth casglu llawn a鈥檙 gyfradd ostyngol. Mae鈥檙 casgliad bin brown yn wasanaeth gwych i helpu preswylwyr ailgylchu mwy, ac mae鈥檙 gwastraff gardd sy鈥檔 cael ei gasglu yna鈥檔 cael ei gompostio ac mae ar gael, yn rhad ac am ddim, i breswylwyr mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Os wnaethoch chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd dros y blynyddoedd diwethaf (2023 neu 2024), byddwch wedi derbyn math newydd o sticer gyda sglodyn RFID wedi鈥檌 fewnosod. Mae hyn yn golygu na fyddwch chi鈥檔 derbyn sticer newydd eleni pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu, bydd yr un sydd eisoes wedi鈥檌 atodi i鈥檆h bin yn gweithio unwaith eto, gan gymryd eich bod yn tanysgrifio i dderbyn y gwasanaeth eto eleni.听 Rhowch eich bin brown allan i鈥檞 gasglu pan fydd y gwasanaeth yn ailddechrau a bydd eich gwastraff gardd yn cael ei gasglu.听 Os na wnaethoch chi gofrestru am y gwasanaeth yn 2023 neu 2024, anfonir pecyn sticer atoch unwaith y byddwch wedi tanysgrifio i鈥檙 gwasanaeth.听
I danysgrifio ar-lein, ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i鈥檔 gwefan: Gwastraff Gardd
Ni fydd y system dalu ar gael rhwng 6pm ddydd Iau 27 Chwefror ac 8am ddydd Llun 3 Mawrth. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.听
听