天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad cyhoeddus creu lleoedd Treffynnon

Published: 08/01/2025

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal sesiynau galw heibio yn Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu yn Nhreffynnon, lle mae pobl leol yn cael eu hannog i helpu llunio dyfodol y dref.

Gan ddefnyddio Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae鈥檙 Cynllun Creu Lleoedd drafft bellach wedi鈥檌 ddatblygu ar sail data, ymchwil a barn y cyhoedd. Mae bellach wedi cyrraedd y cam drafft terfynol i鈥檞 rannu gyda鈥檙 cyhoedd er mwyn ymgynghori arno ymhellach, cyn i鈥檙 Cyngor a鈥檌 bartneriaid allanol ystyried ei fabwysiadu.

Bydd yr ymgysylltiad diweddaraf hwn yn gadael i aelodau鈥檙 cyhoedd weld y cynllun drafft, y blaenoriaethau allweddol a nodwyd, a鈥檙 dull a gynigir i roi鈥檙 cynllun ar waith. Mae鈥檙 arolwg yn ceisio canfod barn y cyhoedd am y blaenoriaethau a鈥檙 camau gweithredu a gynigir.

Dechreuodd y gweithgaredd ymgynghori cychwynnol yn 2023, pan ofynnwyd i鈥檙 cyhoedd rannu eu canfyddiadau am Dreffynnon fel rhan o broses i ddatblygu 鈥楥ynlluniau Creu Lleoedd鈥� ar gyfer saith canol tref dros y 18 mis nesaf.听 Ar 么l cael dros 900 o ymatebion i鈥檙 ymgynghoriad ar-lein ac wyneb yn wyneb, mae gwaith wedi parhau i ddatblygu鈥檙 Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Treffynnon.

Bydd cyfle i bobl leol gymryd rhan mewn sesiwn galw heibio i roi adborth wyneb yn wyneb. Cynhelir y sesiynau hyn yn Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu yn Nhreffynnon:

Dydd Llun 13 Ionawr 2025: 14:00-16:00

Dydd Mawrth 14 Ionawr 2025: 13.00-15.00

Dydd Mercher 15 Ionawr 2025: 13.00-15.00

Dydd Iau 16 Ionawr 2025: 13.00-15.00

Dydd Gwener 17 Ionawr 2025: 14:00-16:00听

Bydd T卯m Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn bresennol ddydd Llun 13 Ionawr a dydd Gwener 17 Ionawr, os hoffech chi siarad yn uniongyrchol 芒鈥檙 t卯m, ond bydd cyfle hefyd i lenwi arolygon adborth unrhyw dro o fewn oriau agor y swyddfa.

Mae鈥檙 gweithgarwch Cynllun Creu Lleoedd yn cael ei arwain gan D卯m Adfywio Cyngor Sir y Fflint mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o wasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner allanol. Gwneir hyn mewn ymateb i gais Llywodraeth Cymru i bob awdurdod lleol yng Nghymru sefydlu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer eu trefi. Mae angen y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau y gall buddsoddiad Llywodraeth Cymru fod ar gael i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi yn y dyfodol.

Bydd y Cynlluniau Creu Lleoedd yn nodi gweledigaeth y dyfodol ar gyfer pob tref, yn amlinellu blaenoriaethau a all helpu gwella bywiogrwydd ac atyniad cyffredinol y lleoliad, ac yn ceisio mynd i鈥檙 afael ag anghenion y bobl sy鈥檔 byw, yn gweithio ac yn ymweld 芒鈥檙 trefi. Mae datblygu鈥檙 cynlluniau ar gyfer pob tref yn creu cyfleoedd i amrywiaeth o fudd-ddeiliaid gydweithio鈥檔 well er mwyn gwneud gwelliannau.