Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriad Cyhoeddus Creu Lleoedd Shotton
Published: 06/12/2024
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal sesiynau galw heibio yn Eglwys Rivertown yn Shotton, lle mae pobl leol yn cael eu hannog i helpu llunio dyfodol Shotton.
Gan ddefnyddio Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae鈥檙 Cynllun Creu Lleoedd drafft bellach wedi鈥檌 ddatblygu ar sail data, ymchwil a barn y cyhoedd. Mae bellach wedi cyrraedd y cam drafft terfynol i鈥檞 rannu gyda鈥檙 cyhoedd er mwyn ymgynghori arno ymhellach, cyn i鈥檙 Cyngor a鈥檌 bartneriaid allanol sy鈥檔 rhan o ddatblygiad y Cynllun Creu Lleoedd ystyried ei fabwysiadu.
Bydd yr ymgysylltiad diweddaraf hwn yn gadael i aelodau鈥檙 cyhoedd weld y cynllun drafft, y blaenoriaethau allweddol a nodwyd, a鈥檙 dull a gynigir i roi鈥檙 cynllun ar waith. Mae鈥檙 arolwg yn ceisio canfod barn y cyhoedd am y blaenoriaethau a鈥檙 camau gweithredu a gynigir.
Dechreuodd y gweithgaredd ymgynghori cychwynnol yn 2023, pan ofynnwyd i鈥檙 cyhoedd rannu eu canfyddiadau am Shotton fel rhan o broses i ddatblygu 鈥楥ynlluniau Creu Lleoedd鈥� ar gyfer saith canol tref dros y 18 mis nesaf.听 Ar 么l cael dros 1,100 o ymatebion i鈥檙 ymgynghoriad ar-lein ac wyneb yn wyneb, mae gwaith wedi parhau i ddatblygu鈥檙 Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Shotton.
Bydd cyfle i bobl leol gymryd rhan mewn sesiwn galw heibio i roi adborth wyneb yn wyneb.听 Cynhelir y sesiynau hyn yn Eglwys Rivertown yn Shotton:-
ddydd Llun 9 Rhagfyr 2024, 0900-1200
ddydd Mercher 11 Rhagfyr 2024, 0900-1200
ddydd Gwener 13 Rhagfyr 2024, 0900-1100
Bydd T卯m Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn bresennol ar y dydd Llun a鈥檙 dydd Gwener, os hoffech chi siarad yn uniongyrchol 芒鈥檙 t卯m, ond bydd cyfle hefyd i lenwi arolygon adborth unrhyw dro o fewn oriau agor yr Eglwys.
Mae鈥檙 gweithgarwch Cynllun Creu Lleoedd yn cael ei arwain gan D卯m Adfywio Cyngor Sir y Fflint mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o wasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner allanol. Gwneir hyn mewn ymateb i gais Llywodraeth Cymru i bob awdurdod lleol yng Nghymru sefydlu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer eu trefi. Mae angen y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau y gall buddsoddiad Llywodraeth Cymru fod ar gael i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi yn y dyfodol.
Bydd y Cynlluniau Creu Lleoedd yn nodi gweledigaeth y dyfodol ar gyfer pob tref, yn amlinellu blaenoriaethau a all helpu gwella bywiogrwydd ac atyniad cyffredinol y lleoliad, ac yn ceisio mynd i鈥檙 afael ag anghenion y bobl sy鈥檔 byw, yn gweithio ac yn ymweld 芒鈥檙 trefi. Mae datblygu鈥檙 cynlluniau ar gyfer pob tref yn creu cyfleoedd i amrywiaeth o fudd-ddeiliaid gydweithio鈥檔 well er mwyn gwneud gwelliannau.