Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint Ifanc
Published: 29/11/2024
Mae yna amseroedd cyffrous i ddod i grwp o bobl ifanc sy鈥檔 byw yn Sir y Fflint. Grwp cyfranogiad sydd newydd ei ffurfio ydi Sir y Fflint Ifanc sydd wedi dod 芒 disgyblion o ddeg ysgol uwchradd yn Sir y Fflint, a chynrychiolwyr o Fforwm Ieuenctid Sir y Fflint ynghyd, i ffurfio un grwp cyffredinol. Gyda chefnogaeth lawn Cyngor Sir y Fflint, mae鈥檙 bobl ifanc sydd yn听angerddol am wneud newidiadau yn eu cymuned, yn cael y cyfle i ymgysylltu yn y prosesau democrataidd a gwneud penderfyniadau sy鈥檔 effeithio arnyn nhw ar lefel leol a chenedlaethol.听听

听
Yn dilyn cyfnod treialu llwyddiannus yn ystod haf 2024, fe fu鈥檙 grwp yn cyfarfod am y tro cyntaf ddydd Gwener 22 Tachwedd yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug gyda Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, a鈥檙 Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, Y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden.听 Roedd Neal Cockerton, Prif Weithredwr y Cyngor yn bresennol trwy gyfrwng cyswllt fideo i agor y cyfarfod yn ffurfiol a chroesawu鈥檙 bobl ifanc.听
Yn ystod y bore, bu鈥檙 grwp yn cymryd rhan mewn gweithgaredd grwp Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau鈥檙 Plentyn (CCUHP) a thrafod materion pwysig sy鈥檔 effeithio arnyn nhw.听 Cawsant gyfle i adolygu casgliadau o arolwg a gynhaliwyd yn nhymor yr hydref gyda thua 600 o bobl ifanc o Sir y Fflint ac ystyried them芒u i鈥檞 cynnwys yn eu Rhaglen Waith.听 听Rhoddodd Ben Turpin, Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd, a Molly Salter gyflwyniad ar Newid Hinsawdd hefyd. Fe arweiniodd hyn at drafodaeth grwp a鈥檙 cyfle i鈥檙 bobl ifanc gyfrannu at Strategaeth Newid Hinsawdd y Cyngor yn y dyfodol.
Fe ymgynghorwyd 芒鈥檙 bobl ifanc o ran sut yr hoffent gyfarfod yn y dyfodol a pha mor aml, a bydd swyddogion o wasanaethau Ieuenctid a thimau Ysgolion Iach y Cyngor yn hwyluso hyn wrth symud ymlaen.听听
Meddai鈥檙 Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden:
鈥淢ae Sir y Fflint Ifanc yn gyfle gwych i鈥檔 pobl ifanc. Mae鈥檔 bwysig eu bod nhw鈥檔 gallu cyfrannu鈥檔 effeithiol i faterion maen nhw deimlo鈥檔 angerddol amdanynt yn eu cymuned a gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y dyfodol鈥.听 听听
听