Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2024 - Adnabod eich Hawliau
Published: 26/11/2024
Ledled y DU mae gofalwyr yn darparu cymorth allweddol ac amhrisiadwy i bartner, aelod o鈥檙 teulu neu ffrind.
Yr wythnos ddiwethaf, bu i ni nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr a鈥檙 thema eleni oedd 鈥楢dnabod eich Hawliau鈥
Yma yn Sir y Fflint rydym yn falch o gefnogi dros 11,500 o drigolion sydd 芒 chyfrifoldebau gofalu, trwy wasanaethau mewnol a鈥檔 sefydliadau partner. Ond nid yw nifer o bobl yn gweld eu hunain fel gofalwyr ac yn aml nid ydynt yn ymwybodol o鈥檜 hawliau a鈥檙 hyn allant ei gael o ran cymorth a budd-daliadau.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol 鈥淢ae gofalwyr a gofalwyr ifanc yn gwneud cyfraniad sylweddol i gymdeithas, ac mae鈥檔 bwysig iddynt wybod bod cymorth ar gael i鈥檞 cefnogi yn eu rhinwedd eu hunain. Rwy鈥檔 hynod o falch o鈥檙 ystod eang o wasanaethau i ofalwyr yma yn Sir y Fflint, ac rwy鈥檔 annog gofalwyr sydd angen cymorth i gysylltu.鈥
Gofalwr yw unrhyw un sy'n gofalu, yn ddi-d芒l, am ffrind neu aelod o'r teulu o ganlyniad i salwch, anabledd, bregusrwydd,聽 problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth na all ymdopi heb eu cefnogaeth.
Gall gofalwr fod o unrhyw oedran, gan gynnwys:
鈥 Gofalwr ifanc o dan 18 oed
鈥 Rhiant sy鈥檔 ofalwr yn gofalu am blentyn sydd ag anghenion cymorth ychwanegol
鈥 Ffrind neu gymydog sy鈥檔 darparu cymorth i rywun sy鈥檔 fregus
鈥 Gwr, gwraig neu bartner
鈥 Rhywun sy鈥檔 gofalu am riant oedrannus sydd angen cymorth
Gall gofalu am rywun gymryd ychydig o oriau bob wythnos, neu gall gofalwr fod yn gofalu am 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos
Os ydych yn ofalwr newydd neu wedi bod yn gofalu am aelod o鈥檙 teulu, ffrind neu gymydog am beth amser, yn aml gallwch deimlo nad oes neb yn gwrando arnoch neu nad ydych yn cael eich cefnogi, ond fel gofalwr di-d芒l mae gennych hawliau.
Bwriad Diwrnod Hawliau Gofalwyr yw sicrhau bod gofalwyr yn ymwybodol o鈥檜 hawliau, gadael i ofalwyr wybod ble i gael cymorth a chefnogaeth, a chodi ymwybyddiaeth.
Dywedodd Craig Macleod, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol: 鈥淩ydym yn cydnabod y cyfraniad ystyrlon mae gofalwyr yn ei wneud, gan gynnwys gofalwyr ifanc wrth ddarparu gofal a chymorth i鈥檞 hanwyliaid ac rydym yn deall eu bod angen cefnogaeth eu hunain er mwyn gwneud hyn.聽 Mae lles gofalwyr o bwysigrwydd mawr ac rydym eisiau sicrhau bod gofalwyr yn ymwybodol y gallant gael cyngor a chymorth unrhyw bryd ac nid dim ond pan fo argyfwng.
Ddydd Iau bu i鈥檔 sefydliad partner Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru gynnal diwrnod agored Hawliau Gofalwyr yn eu Canolfan newydd i Ofalwyr ar Stryd Fawr yr Wyddgrug.聽
Ychwanegodd Prif Weithredwr GOGDdC, Claire Sullivan:聽 鈥淕allwn gynnig ystod eang o gymorth i ofalwyr gan gynnwys cymorth ariannol, cynllun seibiant sydd wedi ennill gwobrau, asesiadau o anghenion gofalwyr, cwnsela, hyfforddiant, grwpiau cefnogi cyfoedion, cymorth ysbyty a mwy. Gall GOGDdC helpu gofalwyr i gael gafael ar wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth os oes arnynt angen cymorth yn eu r么l gofalu, yn ogystal 芒 rhoi gwybod iddynt am eu hawliau fel gofalwr di-d芒l. Felly dewch draw i鈥檔 gweld ni.鈥
I gael rhagor o wybodaeth, .