Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Preswylwyr Lleol yn Arwain Ymdrech Lwyddiannus i Lanhau Stryd Gefn yng Nghei Connah
Published: 15/11/2024
Mae preswylwyr Cei Connah wedi dod ynghyd gan lwyddo i wella stryd gefn sydd wedi ei hesgeuluso yn eu cymuned. Dechreuodd y fenter pan gysylltodd grwp o breswylwyr 芒 Chyngor Sir y Fflint i drafod pryderon yn ymwneud 芒 blerwch y stryd gefn. Fe arweiniodd eu penderfyniad ar y cyd at y syniad o ffurfio grwp 芒 chyfansoddiad gyda chynlluniau i ymgeisio am gyllid allanol i gynnal a gwella鈥檙 ardal.
Fe gymrodd y prosiect gam mawr ymlaen pan drefnodd Cadwch Gymru鈥檔 Daclus a Chadwch Sir y Fflint yn Daclus ddiwrnod glanhau cymunedol gyda chymorth gwirfoddolwyr lleol, gan gynnwys Casglwyr Sbwriel y Fflint, preswylwyr a鈥檙 cynghorydd sir lleol.听 Gan ddefnyddio Cronfa Ffyniant Gyffredin Cadwch Gymru'n Daclus, fe gafodd y t卯m wared ar gyfanswm sylweddol o wastraff, a oedd yn gyfystyr 芒 llenwi tair fan gyda chawell. Gyda鈥檌 gilydd fe aethant ati i weithio鈥檔 ddiwyd i glirio鈥檙 stryd gefn ac arweiniodd hyn at newid gweledol a oedd yn cael cryn effaith.
Dywedodd Wayne Jones, preswyliwr lleol a fu鈥檔 rhan o hyn: 鈥淯nwaith y daethom i gyd at ein gilydd, gan greu ein nod a鈥檔 hamcanion, fe wnaed y gwaith ei hun yn gyflym. Rydym yn y broses o orffen sefydlu鈥檙 grwp ac rydym wedi creu tudalen er mwyn helpu i gael cefnogaeth leol ac i greu momentwm. Ni fyddem wedi gallu cyflawni dim o hyn heb Cadwch Gymru鈥檔 Daclus a Chyngor Sir y Fflint.鈥
Gan nad yw鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 strydoedd cefn yn eiddo i Gyngor Sir y Fflint, mae pob prosiect yn amrywio yn seiliedig ar ddisgwyliadau ac ymrwymiad y preswylwyr. Mae Cadwch Gymru鈥檔 Daclus a Chyngor Sir y Fflint yn dal yn barod i arwain cymunedau drwy fentrau tebyg. Mae鈥檙 prosiect hefyd yn cynnwys ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, ymdrechion hunan-blismona gan breswylwyr a rhoi gwybod i berchnogion newydd am ganllawiau鈥檙 ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant:听
鈥淢ae鈥檔 anhygoel beth all ddigwydd wrth i gymuned ddod ynghyd. Rydym yn dymuno鈥檙 gorau i breswylwyr sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 prosiect hwn ac rydym yn gobeithio y bydd eraill yn ymuno 芒鈥檜 hymdrechion i gadw鈥檙 ardal yn l芒n a chroesawgar.鈥澨
Mae鈥檙 grwp wedi derbyn rhoddion gan aelodau o鈥檙 cyhoedd ac mae sefydliadau eraill sydd 芒 diddordeb mewn cydweithio ar brosiect yn y dyfodol wedi cysylltu 芒鈥檙 grwp.听
Os ydych chi鈥檔 credu y gallai eich stryd gefn elwa o ychydig o sylw a bod gennych chi gefnogaeth eich cymdogion, neu os ydych yn fusnes sy鈥檔 barod i gefnogi ymdrechion y grwp hwn neu grwp arall, cysylltwch 芒 keepflintshiretidy@flintshire.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

听
听