天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Camau nesaf ar gyfer 20mya yn Sir y Fflint

Published: 08/11/2024

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cyflwyno nifer o ffyrdd ar draws y sir gyda鈥檙 posibilrwydd o鈥檜 newid o 20mya i 30mya.

Mae鈥檙 cam hwn yn dod ar 么l haf yn gwrando ar bobl leol pan gawsant y cyfle i gael dweud eu barn a darparu adborth ar y ffyrdd yr oeddent yn credu y dylid eu hystyried ar gyfer y newid.

Derbyniodd y Cyngor mwy na 1,000 o geisiadau yn ymwneud 芒 darnau amrywiol o ffyrdd, ac mae swyddogion priffyrdd yn y broses o鈥檜 hadolygu a鈥檜 hasesu yn erbyn canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, er mwyn sicrhau ein bod yn cael y cyflymder iawn ar y ffyrdd iawn ar draws Cymru.

Ar gyfer unrhyw ffordd y mae鈥檙 Cyngor yn credu sy鈥檔 addas ar gyfer terfyn cyflymder 30mya, rhaid iddo hysbysu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ffurfiol. Mae hyn yn broses gyfreithiol sydd rhaid ei dilyn ac yn destun cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol o 21 diwrnod. Ar y pwynt hwn, bydd gan breswylwyr y cyfle i wrthwynebu neu gefnogi鈥檙 newid yn ffurfiol.

Bydd hysbysebion ffurfiol o geisiadau cymwys yn dechrau yn Sir y Fflint ar 8 Tachwedd, 2024. Bydd dwy ffordd yn cael eu hysbysebu bob wythnos hyd nes eir i鈥檙 afael 芒鈥檙 holl ffyrdd cymwys -听

Ni fydd cyfnodau ymgynghori yn gorgyffwrdd 芒 gwyliau鈥檙 Nadolig, felly bydd unrhyw ffyrdd sy鈥檔 weddill yn cael eu hysbysebu yn Ionawr 2025.听

Unwaith yr hysbysebir, bydd pob cynnig yn agored i adborth cyhoeddus a gwrthwynebiadau ffurfiol. Ar 么l yr ymgynghoriad, bydd yr holl ymatebion yn cael eu hadolygu鈥檔 ofalus. Bydd hyd y broses adolygu鈥檔 dibynnu ar y nifer a chymhlethdod unrhyw wrthwynebiadau a sylwadau cefnogi a dderbynnir.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant, y Cynghorydd Glyn Banks: 鈥淩ydym wedi gwrando ar adborth y gymuned leol a dros y misoedd nesaf, bydd nifer o ffyrdd yn cael eu hysbysebu ar gyfer newid y terfyn amser. Pan fyddwn yn cynnig newid, byddwn yn cyhoeddi Gorchymyn Rheoleiddio Traffig statudol a bydd hyn yn cynnig cyfle i breswylwyr a鈥檙 rhai a effeithir i wneud sylwadau neu wrthwynebu cyn bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud.

鈥淢ae diogelwch y defnyddwyr ffordd yn hollbwysig ac felly ni fydd yr holl ffyrdd y gwneir cais amdanynt gan breswylwyr yn bodloni鈥檙 meini prawf ar gyfer terfyn cyflymder 30mya yng nghanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru.鈥澨

Ni all y Cyngor weithredu ar unrhyw sylwadau sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 polisi 20mya cyffredinol gan fod hyn yn fater ar gyfer Llywodraeth Cymru.