天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rydw i'n fwy na "gweithiwr cymdeithasol yn unig," ac rydw i wrth fy modd

Published: 07/11/2024

Picture1.pngYmchwil newydd yn amlygu'r arbenigedd a'r gefnogaeth a ddarperir gan weithwyr cymdeithasol yn Sir y Fflint mewn ymgais i annog mwy o bobl i faethu.

Gyda dros 7,000 o bobl ifanc mewn gofal ledled Cymru, mae鈥檙 angen am fwy o Ofalwyr Maeth yn un sy鈥檔 gynyddol enbyd.

Ar hyn o bryd mae 105 o blant mewn gofal maeth yn Sir y Fflint, sy'n derbyn gofal gan y 77 o ofalwyr maeth yr awdurdod lleol. Wrth i nifer y plant sy'n dod i ofal barhau i gynyddu, mae angen mwy o ofalwyr maeth newydd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu aros yn eu cymuned leol, pan fydd hynny'n iawn iddyn nhw.听听

Ym mis Ionawr, lansiodd y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, Maethu Cymru, ymgyrch i recriwtio 800 o deuluoedd maeth ychwanegol erbyn 2026.

Ymunodd Maethu Cymru Sir y Fflint 芒鈥檙 ymgyrch, 鈥榞all pawb gynnig rhywbeth鈥 i rannu profiadau realistig y gymuned faethu ac ymateb i rwystrau cyffredin sy鈥檔 atal pobl rhag gwneud ymholiad.

Mae rhai o鈥檙 rhain yn cynnwys diffyg hyder, camsyniadau ynghylch meini prawf, a chred nad yw maethu鈥檔 cyd-fynd 芒 rhai ffyrdd o fyw.

Mae cam diweddaraf yr ymgyrch yn canolbwyntio ar r么l gweithwyr cymdeithasol gofal maeth a鈥檙 鈥榮wigen gymorth鈥 sy鈥檔 bodoli o amgylch gofalwyr maeth, er mwyn darparu鈥檙 canlynol i ofalwyr posib:

1) Gwybodaeth a dealltwriaeth am r么l gweithwyr cymdeithasol, a sut y gall y gymuned faethu ehangach eu cefnogi.

2) Hyder a sicrwydd bod gweithwyr cymdeithasol yn arbenigwyr gofalgar, rhagweithiol sy'n gweithio'n galed i gefnogi pobl ifanc a gofalwyr maeth.

3) Cymhelliant i gychwyn y broses o ddod yn ofalwr maeth trwy Awdurdod Lleol.

Mewn 听dywedodd dim ond 44% o鈥檙 ymatebwyr fod gwaith cymdeithasol yn cael ei barchu ac roedd bron i ddwy ran o bump (39%) o鈥檙 oedolion a holwyd yn teimlo bod ymarferwyr gwaith cymdeithasol 鈥測n cael pethau鈥檔 anghywir yn aml.鈥 Yn ogystal, dim ond 11% o weithwyr cymdeithasol sy鈥檔 credu fod gwaith cymdeithasol yn cael ei barchu ar hyn o bryd.

Mae鈥檙 ymgyrch ddiweddaraf 鈥樷榞all pawb gynnig rhywbeth鈥, yn cael ei harwain gan arolwg sydd newydd ei gomisiynu er mwyn deall rhagdybiaethau a chymhellion gweithwyr cymdeithasol yn well. Cafwyd 309 o ymatebwyr ac mae鈥檙 canfyddiadau allweddol yn cynnwys:

鈥 78% o weithwyr cymdeithasol yn yr arolwg yn dweud eu bod wedi ymuno 芒'r proffesiwn i gefnogi a helpu teuluoedd

鈥 18% o ofalwyr maeth yn dweud fod canfyddiadau negyddol o weithwyr cymdeithasol yn bodoli oherwydd sylw yn y Newyddion

鈥 29% o ofalwyr maeth yn dweud, cyn cyfarfod 芒 gweithiwr cymdeithasol eu bod yn meddwl y byddent yn 鈥榖obl 芒 llwyth achosion trwm a llawer o waith papur.鈥

鈥 27% o weithwyr cymdeithasol a holwyd yn credu bod darpar ofalwyr yn ofni cael eu barnu gan weithwyr proffesiynol

Mae Helen Murphy yn Weithiwr Cymdeithasol 鈥楳ockingbird鈥 gyda Maethu Cymru Sir y Fflint ac mae wedi treulio dwy flynedd a hanner yn y r么l. 鈥楳ockingbird鈥 yw rhaglen arloesol a ddatblygwyd gan Y Rhwydwaith Maethu sy鈥檔 cynnig cefnogaeth a pherthnasau i ofalwyr maeth, fel y mae teulu estynedig yn eu darparu. Sir y Fflint yw partner Mockingbird cyntaf y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru.

"Dechreuais weithio gyda Maethu Cymru Sir y Fflint fel myfyriwr ym mis Hydref 2021. Doeddwn i erioed wedi ystyried gyrfa fel gweithiwr cymdeithasol i ofalwyr maeth o'r blaen, ond cefais fy ysbrydoli'n gyflym gan eu hymroddiad i gefnogi plant na all eu teuluoedd eu hunain ofalu amdanynt. Mae ein gofalwyr yn darparu empathi, dealltwriaeth a chefnogaeth gariadus i blant a'u teuluoedd.

鈥淢ae gofalwyr maeth yn unigolion cryf, gwydn ac addasadwy sy'n fedrus iawn ac yn ceisio datblygiad personol a phroffesiynol yn barhaus i sicrhau bod pob plentyn yn cael y gofal gorau posibl pan fydd ei angen arnynt. Rwy'n falch o fod yn Weithiwr Cymdeithasol Cyswllt Mockingbird ar gyfer Sir y Fflint.

鈥淢ae'r r么l hon yn cynnwys model teulu cymunedol lle mae t卯m o ofalwyr hwb yn darparu cymorth ymarferol i ofalwyr maeth lleol eraill, fel gofal plant neu dim ond bod yno i gael sgwrs pan fo angen. Mae ein gofalwyr Mockingbird hefyd yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol lleol, ac fel grwp, rydym yn cael llawer o hwyl gyda'r plant.听

鈥淵n y r么l hon, rydw i'n fwy na "gweithiwr cymdeithasol yn unig," ac rydw i wrth fy modd yn llwyr."

"Rwy'n ddiolchgar bod Helen yno i'm tywys drwy'r amseroedd da a'r cyfnodau mwy heriol" 鈥 Sue, Gofalwr Maeth, Sir y Fflint

Yn yr ymchwil, tynnodd gofalwyr maeth sylw at bwysigrwydd perthnasoedd gwaith agos a hirhoedlog er mwyn cefnogi pobl ifanc i oresgyn heriau. Roeddent hefyd yn awyddus i chwalu mythau am weithwyr cymdeithasol a鈥檙 cymorth a dderbynnir, a thalwyd teyrnged i ymroddiad eu gweithwyr cymdeithasol:

Mae Sue wedi bod yn maethu gyda'i hawdurdod lleol yn Sir y Fflint ers 2020 ac mae hi hefyd yn ofalwr Hwb Mockingbird.

"Rwyf wedi adnabod y gweithwyr cymdeithasol yn Sir y Fflint ers blynyddoedd lawer, ac rwyf wedi bod yn ofalwr hwb Mockingbird ers 2 flynedd. Mae Helen a minnau wedi datblygu perthynas wych. Gallaf estyn allan iddi am yr hyn sydd ei angen arnaf, ac mae hi bob amser wrth law i helpu. Mae Helen yn gwrando arna i ac yn fy helpu i gredu ynof fy hun a fy ngalluoedd.

鈥淢ae Helen a minnau'n gweithio'n dda gyda'n gilydd, mae gan y ddwy ohonom sgiliau empathi, tosturi a meithrin perthynas cryf, ac mae'r rhain wrth wraidd y rolau a wnawn.听

Pan fo heriau, rydyn ni'n delio 芒 nhw gyda'n gilydd, gan fod cymuned Mockingbird fel un teulu mawr.听

鈥淢ae'n werth chweil gweld plant a gofalwyr maeth yn mwynhau cwmni ei gilydd ac yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi drwy chwarae a chyfathrebu. Rydym wedi cael llawer o hwyl gyda'n gilydd, ac mae Helen mor adnabyddus 芒 minnau ymhlith y plant a'r gofalwyr.

鈥淩ydym yn adnabod ein gofalwyr maeth a'n plant yn dda. Mae pawb yn gyfforddus 芒'i gilydd, a gallwn ddarparu ar gyfer anghenion cymorth unigol pawb.听

鈥淩wy'n ddiolchgar bod Helen yno i'm cael drwy'r amseroedd da a'r cyfnodau mwy heriol. Mae fy r么l mor werth chweil!"

I gael gwybod mwy am y rhaglen 鈥楳ockingbird鈥 yn Maethu Cymru Sir y Fflint, ewch i:

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: