天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn croesawu adroddiad gofal gan yr Ombwdsmon

Published: 31/10/2024

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar wasanaethau i ofalwyr.

Cynhaliodd Michelle Morris ymchwiliad 鈥楢r ei Liwt ei Hun鈥� i sut mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau i gynnig asesiad o anghenion i bob gofalwr os oes arnynt angen cefnogaeth ychwanegol.聽

Mae tua 18,000 o ofalwyr yn Sir y Fflint ac mae llawer ohonynt yn cael cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol neu drwy Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC), sefydliad a gomisiynwyd gan y Cyngor.

Ystyriodd yr Ombwdsmon y prosesau ar gyfer cefnogi gofalwyr yn Sir y Fflint, yn ogystal 芒 Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.

Dywedodd ymgynghorydd arweiniol yr Ombwdsmon fod gofalwyr yn gyffredinol yn cael eu holi am eu profiadau a鈥檜 bod yn gallu mynegi ac archwilio ystod ac amrywiaeth eang o anghenion cefnogi.聽聽 Dywedodd yr adroddiad fod y pedwar awdurdod wedi asesu鈥檔 effeithiol a oedd ar ofalwyr sy鈥檔 oedolion angen cefnogaeth, ac wedi gweithio gyda鈥檙 gofalwyr i ddynodi beth oedd yr anghenion hynny.聽

Tynnodd yr Ombwdsmon sylw at sawl maes o arfer da yn Sir y Fflint, yn ogystal 芒 gwneud nifer o argymhellion ar gyfer datblygu gwasanaethau.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, y Cynghorydd Christine Jones: 鈥淩ydym yn gwerthfawrogi鈥檔 fawr iawn y cyfraniad allweddol mae gofalwyr o bobl oed yn ei wneud i gefnogi eu hanwyliaid.

鈥淩wyf yn falch iawn o鈥檙 ystod eang o wasanaethau gofalwyr rydym yn eu darparu yma yn Sir y Fflint, yn fewnol a gyda phartneriaid. Rwyf yn falch o weld bod yr Ombwdsmon wedi nodi arfer da o ran cefnogi gofalwyr yn Sir y Fflint ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella ein gwasanaethau ac yn croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad.鈥�

Ychwanegodd Prif Weithredwr GOGDdC, Claire Sullivan:聽鈥淗offem ddiolch i鈥檙 Ombwdsmon am dynnu sylw at gyfraniad gofalwyr di-d芒l i gymdeithas. Mae鈥檙 adroddiad yn canolbwyntio ar elfen o ystod llawer mwy eang o gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr yn Sir y Fflint. Mae GOGDdC yn darparu achubiaeth i ofalwyr o bob oed a chefndir ac yn cynnig ystod o wasanaethau sydd wedi鈥檜 teilwra i fodloni anghenion unigol.聽

鈥淩ydym yn ymdrechu鈥檔 barhaus i godi ymwybyddiaeth am ein gwasanaethau er mwyn cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl ac yn edrych ymlaen at groesawu鈥檙 holl ofalwyr i鈥檔 Canolfan Gofalwyr newydd ar Stryd Fawr yr Wyddgrug, fydd yn agor ym mis Tachwedd 2024.鈥�

Mae'r gefnogaeth sydd ar gael drwy GOGDdC yn cynnwys cymorth ariannol, cynllun seibiant arobryn, asesiadau o anghenion gofalwyr, cwnsela, hyfforddiant, grwpiau cefnogi cyfoedion, cymorth ysbyty a llawer mwy.聽 Gall GOGDdC helpu gofalwyr i gael gafael ar wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth os oes arnynt angen cymorth yn eu r么l gofalu, yn ogystal 芒 rhoi gwybod iddynt am eu hawliau fel gofalwr di-d芒l.