天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn buddsoddi mewn ateb arloesol i dyllau yn y ffordd

Published: 28/10/2024

Yn sgil gostyngiadau sylweddol yn y gyllideb a鈥檙 pwysau ariannol parhaus, mae Cyngor Sir y Fflint yn cymryd camau pendant i sicrhau effeithlonrwydd cynnal a chadw ffyrdd a鈥檜 hirhoedledd drwy gaffael 鈥楯CB Pot Hole Pro鈥 鈥 peiriant chwyldroadol a ddyluniwyd i fynd i'r afael 芒 her barhaus tyllau yn y ffyrdd.听

Mae'r cam hwn yn rhan o strategaeth ehangach y Cyngor i lywio toriadau yn y gyllideb drwy fuddsoddi'n ddoeth mewn technoleg sy'n arbed arian ac yn gwella gwasanaethau dros y tymor canolig a'r hirdymor.

Mae cyflwyno'r 鈥楯CB Pot-Hole Pro鈥 yn elfen allweddol o athroniaeth 'buddsoddi i arbed' Cyngor Sir y Fflint, sy'n blaenoriaethu arbedion hirdymor ac enillion effeithlonrwydd dros fesurau adweithiol byrdymor.Pothole Pro - Image 1.jpg

Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant, y Cynghorydd Dave Hughes: 鈥淢ae buddsoddiadau fel hyn yn hanfodol i foderneiddio gwasanaethau a sicrhau y gallwn barhau i gynnal a gwella ein hisadeiledd yn y modd mwyaf cost-effeithiol posibl, er gwaethaf yr heriau a ddaw yn sgil y toriadau yn y gyllideb.

鈥淒rwy gynllunio gofalus a buddsoddi mewn arloesedd, credwn y gallwn sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy ac effeithlon i Sir y Fflint.鈥

Meddai Carolyn Thomas, Aelod o鈥檙 Senedd ar gyfer Gogledd Cymru: 鈥淢ae鈥檔 braf gweld Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio datrysiadau arloesol fel y Pothole Pro i gynnal a chadw priffyrdd ar draws y sir.

鈥淢ae gan awdurdodau lleol fel Sir y Fflint gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd ar faterion priffyrdd, a dyna pam fy mod mor awyddus i weld cyllid priffyrdd Llywodraeth Cymru yn cael ei ddatganoli i awdurdodau lleol ymhellach. Byddai hyn yn rhoi rheolaeth i gynghorau, fel Sir y Fflint, dros sut maent yn gwario鈥檙 arian a roddir iddynt, gan roi mwy o gyfleoedd iddynt ddefnyddio eu gwybodaeth a鈥檜 harbenigedd i sicrhau bod preswylwyr yn cael y gwerth gorau am arian, yn ogystal 芒鈥檙 datrysiadau cynnal a chadw priffyrdd gorau.

鈥淢ae鈥檙 Prif Weinidog wedi gwneud trwsio ffyrdd yn flaenoriaeth a dw i wedi bod yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth ar ffyrdd i sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer hynny yn y gyllideb a osodir ar gyfer cludiant.鈥

Bydd gallu datblygedig y peiriant yn arwain at atgyweiriadau ffyrdd mwy gwydn, gan leihau amlder tyllau yn y ffyrdd ac ymestyn oes ffyrdd y sir. Nid yn unig y bydd hyn yn golygu teithiau gwell, mwy diogel i drigolion, ond mae hefyd yn arwain at arbedion cost sylweddol drwy leihau'r angen am atgyweiriadau parhaus, a all achosi aflonyddwch a gwariant mawr.

Mae鈥檔 bosibl bod trigolion eisoes wedi gweld y peiriant newydd ar y ffyrdd dros yr haf eleni. Mae鈥檙 鈥楶ot-Hole Pro鈥 wedi bod yn gwella ffyrdd ar hyd a lled Sir y Fflint ers mis Ebrill, gan gynnwys yr A451 yn Rhosesmor, Star Crossing yng Nghilcain, cylchfannau Tesco yn yr Wyddgrug, rhannau o鈥檙 A548 a Stryd Brynford yn Nhreffynnon.