Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lefelau presenoldeb yn ysgolion Sir y Fflint yn cynyddu
Published: 08/10/2024
Mae lefelau presenoldeb yn ysgolion Sir y Fflint yn uwch na chyfartaledd Cymru erbyn hyn yn dilyn camau gweithredu gan Gyngor Sir y Fflint.
Yn 2023, ymrwymodd adran addysg y Cyngor i gymryd agwedd fwy cadarn at absenoldebau heb awdurdod a gofnodwyd gan ysgolion cynradd ac uwchradd fel rhan o鈥檌 strategaeth i wella cyfraddau presenoldeb i ddysgwyr Sir y Fflint.
Mae鈥檙 agwedd hon, ar y cyd 芒 chamau gan yr ysgolion, wedi golygu bod lefel presenoldeb dysgwyr Sir y Fflint yn y 4 uchaf yn genedlaethol, yn 么l Llywodraeth Cymru.
Mae鈥檙 Gwasanaeth Lles Addysg wedi targedu adnoddau i gefnogi dysgwyr ar draws y sir ac mae hynny wedi arwain at bresenoldeb cyffredinol o bron i 1% yn uwch na chyfartaledd Cymru.听听
Blaenoriaethodd yr awdurdod lleol y gwaith o fonitro presenoldeb disgyblion, yn enwedig y rhai ym mlynyddoedd 6 a 7 oedd yn is na鈥檙 targed presenoldeb o 90%.听 Mae teuluoedd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch ac wedi cael eu cefnogi i wella presenoldeb disgyblion.听听
Pan oedd yr absenoldeb cyson yn parhau er gwaetha cefnogaeth ac ymyrraeth, cafodd y rhieni Rybuddion Cosb Benodedig neu wynebu achosion llys pan oedd pob ffordd arall wedi methu 芒 gwella presenoldeb.听 Mae Ynadon lleol wedi atgyfnerthu difrifoldeb absenoldeb heb awdurdod yr haf hwn a chafodd un teulu ddirwy/cosb o 拢2,048 ym mis Awst 2024.
Dywedodd Claire Homard, y Prif Swyddog Addysg:听 鈥淢ae鈥檔 braf iawn gweld bod y gwaith rydym yn ei wneud fel Cyngor i sicrhau lefelau presenoldeb uchel yn yr ysgol yn cael effaith gadarnhaol, a bellach mae ein perfformiad ymhlith y gorau yng Nghymru.听
鈥淢ae presenoldeb cyson yn yr ysgol yn hanfodol i sicrhau bod ein dysgwyr yn cyflawni eu potensial ac yn cael y sgiliau a鈥檙 cymwysterau i symud ymlaen yn llwyddiannus i addysg bellach ac uwch a鈥檙 byd gwaith.听 Byddwn yn parhau i gymryd agwedd gadarn pan na fydd teuluoedd yn cefnogi eu plant i fynd i鈥檙 ysgol yn rheolaidd.鈥澨
听
听