天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad Cyngor Sir y Fflint yn ymwneud ag Aura

Published: 26/09/2024

Fe fydd contract Cyngor Sir y Fflint gyda Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyf. yn dod i ben fis nesaf.

Fe ddaw hyn yn dilyn trafodaethau maith rhwng y Cyngor ac Aura eleni er mwyn sicrhau cytundeb hirdymor i ddarparu聽 gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, chwarae ac amgueddfeydd yn y Sir.聽

Fe gynigiwyd contract newydd i Aura, ond cafodd ei wrthod.聽 Mae鈥檙 Cyngor yn siomedig nad oedd modd dod i gytundeb ar drefniant mwy hirdymor o ystyried yr ymrwymiad gan aelodau a swyddogion, a鈥檙 camau cadarnhaol a gymerwyd i geisio dod o hyd i ddatrysiad.聽

Mae鈥檙 Cyngor yn awyddus i sicrhau fod cynllun cadarn ar waith ac wedi ei egluro yn barod pan fydd y cytundeb presennol yn dod i ben ar 31 Hydref. Y prif ffocws bellach fydd lleihau aflonyddwch i ddefnyddwyr gwasanaeth a rhoi sicrwydd i weithwyr Aura.