Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cysylltu Cei Connah â Llwybr Arfordir Cymru 鈥 Arolwg Cerdded, Beicio a Mynd ar Olwynion
Published: 25/09/2024
Mae鈥檙 Cyngor wedi derbyn cyllid cychwynnol i asesu dichonoldeb gwella cysylltiadau cerdded, beicio a mynd ar olwynion (er enghraifft cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd a phramiau) rhwng Cei Connah a Llwybr Arfordir Cymru.聽聽
Er bod modd cael mynediad i'r arfordir trwy Dock Road, nid yw'n llwybr uniongyrchol a gallai pryderon diogelwch posibl atal rhai pobl rhag ei ddefnyddio. Mae pont i gerddwyr Stryd y Bont yn gyfleuster defnyddiol ar gyfer cerddwyr abl, ond ni all unigolion nad ydynt yn gallu defnyddio grisiau na beicwyr ei defnyddio. Pe gellid gwneud gwelliannau o ran mynediad/ diogelwch, byddai鈥檔 cynnig gwell cysylltiad rhwng y dref a鈥檙 arfordir, yn gwella mynediad at natur a mannau gwyrdd ac yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd y cyhoedd a lles y boblogaeth leol.聽聽
Wrth gwrs, byddai angen i unrhyw welliannau ystyried cyfyngiadau lleol.聽
Dywedodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a鈥檙 Economi:聽
鈥淎r hyn o bryd, nid yw cysylltiadau hygyrch o ran cerdded, beicio a mynd ar olwynion rhwng Cei Connah a Llwybr Arfordir Cymru wedi鈥檜 datblygu鈥檔 dda, gyda鈥檙 dref wedi鈥檌 gwahanu i raddau helaeth oddi wrth arfordir Glannau Dyfrdwy.聽聽
鈥淕an weithio鈥檔 agos 芒 Phrosiectau Cludiant Lleol, mae鈥檙 Cyngor yn gwahodd pobl leol i gyflwyno eu safbwyntiau ynghylch materion cerdded, beicio a mynd ar olwynion hygyrch yn yr ardal a syniadau ar gyfer gwneud gwelliannau.鈥
Mae dolen i鈥檙 arolwg ar gael ar y Cyngor.聽