Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint yn derbyn sgôr 鈥楧a鈥�.
Published: 31/07/2024
Mae鈥檙 Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wedi cael ei raddio鈥檔 dda yn dilyn arolwg.
Cafodd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint radd 鈥楧a鈥� yn dilyn arolwg Arolygiaeth Prawf ei Fawrhydi ym mis Mawrth pan gafodd ei asesu mewn tri phrif faes: trefniadau darparu gwasanaethau, ansawdd y gwaith gyda phlant a phobl ifanc a gwaith y tu allan i鈥檙 llys.
Roedd yr adroddiad yn amlygu ymrwymiad a gwaith caled y gwasanaeth dros blant, pobl ifanc a dioddefwyr yn Sir y Fflint. Roedd yr Arolygydd yn teimlo bod y gwasanaeth mewn sefyllfa dda o fewn yr Awdurdod Lleol i fod yn effeithiol gyda dylanwad strategol a gweithredol da ac ethos ac ymrwymiad cryf tuag at ymwreiddio arfer sy鈥檔 cael ei arwain gan drawma.
Canmolwyd rheolwyr, staff a gwirfoddolwyr am eu hangerdd wrth roi cefnogaeth a cheisio llenwi bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth. Nodwyd hefyd bod staff yn mynd y tu hwnt i鈥檙 hyn a ddisgwylir i gefnogi plant a phobl ifanc.
Mae gwaith partneriaeth a dylanwad y gwasanaeth yn gryf a gwelodd yr arolygydd bod darpariaeth y gwasanaeth ac ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth fanwl.听 Nodwyd hefyd bod gan y gwasanaeth gysylltiadau da 芒 sefydliadau academaidd ac fe鈥檌 canmolwyd am y ffordd y mae鈥檔 ymdrin ag asesiadau a鈥檙 gefnogaeth a gynigir i ddioddefwyr trosedd.
Mae鈥檙 argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys llenwi bylchau mewn adnoddau a darpariaeth ym maes iechyd, lleferydd, iaith a chyfathrebu, a phrawf.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg a Diwylliant, y Cynghorydd Mared Eastwood: 鈥淒ylai Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint fod yn falch iawn o鈥檌 lwyddiannau. Mae ei ymrwymiad i鈥檔 plant, pobl ifanc, teuluoedd a dioddefwyr yn neilltuol.听Bydd casgliadau鈥檙 adroddiad ac argymhellion yr arolygydd yn eu cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau o safon gyson uchel ar gyfer yr holl bobl ifanc yn eu gofal."
听
I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint cliciwch yma.