天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arweinydd y Cyngor yn camu i lawr

Published: 31/07/2024

Gallwn gadarnhau bod Arweinydd Cyngor Sir y Fflint wedi ymddiswyddo ar unwaith.

Mewn llythyr ymddiswyddo at y Prif Weithredwr, Neal Cockerton, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts ei bod wedi bod yn fraint gwasanaethu fel Arweinydd Cyngor Sir y Fflint.

Bydd yn parhau i wasanaethu fel Cynghorydd ar gyfer Ward y Castell yn y Fflint.

Mae trefniadau dros dro yn debygol o olygu y bydd y dirprwy Arweinwyr presennol yn cydweithio鈥檔 agos gan rannu swydd.