天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyno taliadau newydd ar gyfer gwastraff nad yw鈥檔 wastraff y cartref ym mis Awst

Published: 30/07/2024

Mae taliadau newydd ar gyfer eitemau nad ydynt yn wastraff y cartref yn cael eu cyflwyno yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint.

O 5 Awst ymlaen, codir t芒l ar drigolion am asbestos, olew moduron, plastrfwrdd a theiars.

Bydd y taliadau hyn yn cwmpasu鈥檙 gost flynyddol sylweddol i Gyngor Sir y Fflint am dderbyn yr eitemau hyn mewn Canolfannau Ailgylchu.

Cymeradwywyd y cynnig gan y Cyngor llawn ar 20 Chwefror 2024, fel rhan o鈥檙 rhaglen gosod cyllideb a oedd yn cynnwys newidiadau arwyddocaol i鈥檙 ddarpariaeth Canolfannau Ailgylchu yn Sir y Fflint mewn ymgais i osod cyllideb gytbwys.

Mae鈥檙 rhain yn cynnwys byrhau鈥檙 oriau agor, codi t芒l am eitemau nad ydynt yn wastraff y cartref a chreu cyfleuster gwastraff ac ailgylchu masnachol.

Meddai鈥檙 Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant: 鈥淩ydym bob amser yn chwilio am ffyrdd cost-effeithiol o weithredu gan ddarparu gwasanaeth o safon dda i鈥檔 trigolion ar yr un pryd.

鈥淢ae鈥檔 costio llawer iawn o arian i鈥檙 Cyngor bob blwyddyn i waredu鈥檙 eitemau hyn. Bydd modd i ni wrthbwyso鈥檙 costau hyn trwy gyflwyno ffi fechan y gellir ei thalu ar-lein.鈥

Mae鈥檔 rhaid i drigolion fynd ar-lein i archebu a thalu i waredu鈥檙 eitemau hyn cyn ymweld 芒 Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Costau gwastraff sydd ddim yn wastraff cartref
Math o Wastraff Cost

Asbestos

Mae鈥檔 bosib casglu鈥檙 bagiau o ganolfannau trwy ddefnyddio eich cyfeirnod archebu.

拢20 fesul bag

(Uchafswm o 5 bag ar gyfer pob archeb)

Olew moduron

拢5 fesul ymweliad

(Dim mwy na 10 litr bob ymweliad)

Plastrfwrdd

拢5 fesul bag

拢30 fesul trelar (plastrfwrdd sydd ddim mewn bag)

Teiars - cerbydau domestig, beiciau modur

拢5 fesul teiar

(Uchafswm o 4 teiar ar gyfer pob archeb)

Ym mis Awst, bydd Cyngor Sir y Fflint hefyd yn lansio Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Masnachol newydd. Ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno鈥檙 rheoliadau ailgylchu yn y gweithle newydd, mae cyfle i gyflwyno gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu i fusnesau lleol gan godi t芒l. Mae hyn yn cynnwys nid yn unig casgliadau ymyl palmant i fusnesau, ond hefyd mynediad am d芒l i Ganolfan Ailgylchu Maes Glas.

Gwelir manylion llawn y taliadau am wastraff nad yw鈥檔 wastraff y cartref .