Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Teuluoedd cymwys i dderbyn taliad Prydau Ysgol am Ddim dros yr haf
Published: 17/07/2024
Bydd miloedd o deuluoedd Sir y Fflint yn derbyn cymorth ariannol tuag at eu biliau bwyd dros wyliau鈥檙 haf.聽
Mae gan blant sy鈥檔 gymwys i brydau ysgol am ddim yn ystod y tymor hawl i 拢50 fesul plentyn cymwys mewn ymdrech gan Gyngor Sir y Fflint i leddfu tlodi bwyd yn ystod gwyliau鈥檙 ysgol.
Roedd y Cyngor wedi camu i mewn a chytuno i ddarparu鈥檙 cymorth ariannol ar 么l i gynllun Llywodraeth Cymru i ddarparu taliad uniongyrchol, talebau neu fwyd i deuluoedd sy鈥檔 wynebu anawsterau ariannol yn ystod gwyliau鈥檙 ysgol ddod i ben ym mis Mehefin 2023.聽
Bydd hyd at oddeutu 5,000 o ddisgyblion yn cael budd o鈥檙 taliad a delir i rieni/gofalwyr mewn dau randaliad.聽 Bydd y taliad cyntaf sy鈥檔 拢25 yn cael ei brosesu鈥檙 wythnos yn dechrau 22 Gorffennaf a鈥檙 ail 拢25 yn cael ei dalu鈥檙 wythnos yn dechrau 12 Awst.聽
Nid oes angen i rieni/gofalwyr wneud cais am y taliad hwn. Gwneir y taliad yn awtomatig, yn uniongyrchol i gyfrifon banc rhieni/gofalwyr holl blant sydd un ai鈥檔 gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim neu sy鈥檔 cael prydau ysgol am ddim o dan ddiogelwch trosiannol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Mared Eastwood: 鈥淔el Cyngor rydym yn ymwybodol o faich cynyddol costau byw ar ein cymunedau ac rydym yn dymuno helpu i ryddhau rhywfaint o鈥檙 straen ar gyllidebau aelwydydd.聽聽
鈥淎r 么l i gynllun Llywodraeth Cymru ddod i ben, camodd y Cyngor i mewn i ddarparu鈥檙 t芒l hwn ar adeg pan mae鈥檙 gyllideb eisoes yn dynn.聽 Rydym wedi ymrwymo i lobio Llywodraeth Cymru i gefnogi鈥檙 teuluoedd sydd ei angen fwyaf.鈥