天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ailagor y Ffordd: A550 (Tinkersdale)

Published: 12/07/2024

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o roi gwybod y bydd yr A550 (Tinkersdale) rhwng Cylchfan Dobshill a Glynne Way yn cael ei hailagor erbyn 5pm heddiw (dydd Gwener, 12 Gorffennaf) yn dilyn cwblhau gwaith atgyweirio hanfodol.

Bu'n rhaid cau'r ffordd er mwyn rhoi wyneb newydd arni yn ddiweddar o ganlyniad i ddirywiad sylweddol yng nghyflwr y ffordd. Yn ogystal 芒 rhoi wyneb newydd ar y ffordd, mae gwaith ychwanegol wedi'i wneud gan gynnwys torri unrhyw goed a changhennau sy'n hongian dros y ffordd, ysgubo'r ffordd a thrwsio'r ffensys diogelu cerddwyr i sicrhau diogelwch a defnyddioldeb y ffordd.

Unwaith eto, dymunai鈥檙 Cyngor ddiolch i drigolion a busnesau'r ardal am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod y gwaith angenrheidiol hwn.聽

I gael rhagor o wybodaeth am yr holl waith ffordd sy鈥檔 digwydd ledled Sir y Fflint, .