Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwanwyn Glân yr Wyddgrug yn llwyddiant ysgubol
Published: 13/06/2024
Daeth mwy na 60 o wirfoddolwyr ynghyd i gasglu sbwriel a gwastraff ym mharciau, mannau agored a strydoedd yr Wyddgrug.聽
Trefnwyd Gwanwyn Gl芒n yr Wyddgrug, a gynhaliwyd fis Mai eleni am y tro cyntaf ers dwy flynedd, gan d卯m Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir y Fflint, Lleihau Plastig yr Wyddgrug, Cadwch Gymru鈥檔 Daclus a Chyngor Tref yr Wyddgrug.聽
Casglwyd 101 o fagiau llawn sbwriel, ac roedd modd ailgylchu dros chwarter ohono (27%).聽
Meddai Stephen Maund o Lleihau Plastig yr Wyddgrug: 鈥淒yma鈥檙 tro cyntaf i brosiect Gwanwyn Gl芒n yr Wyddgrug fesur faint o bethau ailgylchadwy a gasglwyd ym mannau agored a strydoedd yr Wyddgrug.聽
鈥淩oedd swm yr eitemau ailgylchadwy yn llai na鈥檙 disgwyl oherwydd math y gwastraff cyffredinol a gasglwyd, yn cynnwys gwastraff gwyrdd a gwastraff wedi鈥檌 dipio鈥檔 anghyfreithlon. Ond mi fydd hyn yn rhoi meincnod i ni fesur y cynnydd o flwyddyn i flwyddyn.鈥澛
Arweiniodd staff Cyngor Sir y Fflint y dasg o wahanu鈥檙 sbwriel ailgylchadwy a鈥檙 sbwriel nad oedd modd ei ailgylchu, gyda th卯m Cadwch Gymru'n Daclus yn golchi popeth a ellir ei ailgylchu wedyn.聽
Meddai Carolyn Prew o Cadwch Gymru鈥檔 Daclus: : 鈥淢ae鈥檔 rhaid i eitemau ailgylchadwy fod yn l芒n er mwyn eu hailgylchu. Roedd golchi鈥檙 caniau a鈥檙 poteli plastig a gwydr a gasglwyd yn atal nifer fawr o eitemau rhag cael eu rhoi efo鈥檙 gwastraff cyffredinol. Roedd y bobl a oedd yn gwylio鈥檙 broses, y tu allan i Ganolfan Daniel Owen, wedi rhyfeddu gweld cymaint o bethau yn cael eu hachub.鈥澛
Yn defnyddio offer arbenigol, cafodd rhai o鈥檙 eitemau plastig eu hail-fowldio yn botiau blodau ac yn eitemau eraill gan elusen leol ReSource.聽
Meddai Dan Jones o ReSource: 鈥淩oedd y siopwyr a鈥檙 gwirfoddolwyr wrth eu boddau yn cael cyfle i gymryd rhan a throi鈥檙 eitemau plastig yn bethau defnyddiol, gan eu rhwygo a鈥檜 mowldio i greu siapiau diddorol a photiau blodau a thorchau allweddi lliwgar.鈥
Daeth Springy y masgot am dro i weld preswylwyr stad Bryn Gwalia, gan ymuno 芒鈥檌 ffrindiau o Glwb P锚l-droed Alexandra yr Wyddgrug, Maer yr Wyddgrug a chynghorydd lleol i glirio鈥檙 ardal tu allan i siopau Elm Drive.聽
Syniadau ar gyfer lleihau sbwriel yn eich cymuned
鈥 Defnyddiwch boteli a chynwysyddion golchadwy聽
鈥 Peidiwch 芒 thaflu sbwriel, gall sbwriel niweidio鈥檙 amgylchedd ac unwaith y mae wedi鈥檌 halogi does dim modd ei ailgylchu聽
鈥 Ewch 芒鈥檆h sbwriel ailgylchadwy adref efo chi a鈥檌 roi yn eich bin ailgylchu聽