Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Bydd Ffaglau Sir y Fflint ar dân i goffau D-Day
Published: 03/06/2024
I nodi 80 mlynedd ers D-day, bydd T卯m Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Sir y Fflint, mewn partneriaeth ag eraill, yn goleuo ffaglau ar hyd arfordir Sir y Fflint am 9:15y.h. ar 6 Mehefin.
Bydd y deyrnged ryngwladol yn cael ei darllen ym mhob safle fel rhan o鈥檙 digwyddiadau coff谩u cenedlaethol a gynhelir ledled y wlad gan gydnabod ymdrech ac aberth y rhai a gymerodd ran yn D-day ei hun a鈥檙 rhai fu鈥檔 ei cefnogi adref.
Bydd y ffaglau yn cael eu goleuo ar hyd arfordir Sir y Fflint ym Magillt (Bettisfield), Doc Maes Glas, Penrhyn y Fflint, y Fflint (RNLI) a Saltney, gan ymuno 芒 channoedd o rai eraill a fydd yn cael eu goleuo ledled y wlad fel lampau heddwch. Mae'r coed ar gyfer y ffaglau wedi'i noddi gan y cwmni trin coed lleol, Hollywell Tree Care. Mae gan bob ffagl ei dyluniad unigryw, gyda ffagl y ddraig yn Bettisfield yn olygfa ynddo'i hun. Wedi鈥檌 ddylunio a鈥檌 adeiladu gan y crefftwr a鈥檙 gof lleol Peter Carlyle mae鈥檙 ffagl drawiadol hon yn gwylio dros aber yr afon Dyfrdwy.
Fel rhan o ddathliadau D-day mae gwirfoddolwyr lleol a phartneriaid wedi camu i鈥檙 adwy unwaith eto i helpu i wneud y digwyddiadau鈥檔 llwyddiant. Yn Bettisfield mae鈥檙 Grwp Gweithredu Bagillt yn darparu lluniaeth a cherddoriaeth i helpu i gofio鈥檙 diwrnod pwysig hwn mewn hanes, ac mae selogion lleol yn dod 芒 cherbydau milwrol i nodi鈥檙 achlysur. Bydd Maer a Chr茂wr Tref Treffynnon yn darllen teyrngedau yn Noc Maes Glas, y Maer a Dirprwy Faer y Fflint yn y Fflint ac ym Mhenrhyn y Fflint a鈥檙 Maer yn Saltney. Bydd t卯m lleol yr RNLI yn goleuo'r ffagl ger gorsaf yr RNLI yn y Fflint.聽
Gobeithiwn y bydd aelodau鈥檙 cyhoedd yn ymuno 芒 ni i gofio鈥檙 digwyddiad hanesyddol hwn gan ddangos parch a diolch i weithredoedd y rhai hynny a sicrhaodd rhyddid i genedlaethau鈥檙 dyfodol.
Pic:聽Aeron-Haf Gittins