Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathliadau pen-blwydd yr Arth Faethu yn un oed!
Published: 29/02/2024
Bu i Faethu Cymru Sir y Fflint gynnal parti pen-blwydd arbennig iawn y mis hwn i ddathlu blwyddyn ers lansio Ymgyrch yr Arth Faethu.聽聽
Gwahoddwyd plant a gofalwyr maeth lleol i鈥檙 parti ac roedd cyfle i chwarae gemau a chreu crefftau i ddathlu pen-blwydd yr Arth Faethu鈥檔 un oed.
Pleser hefyd oedd croesawu Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol, i鈥檙 digwyddiad.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Jones: 鈥淢ae ymgyrch yr Arth Faethu wedi bod yn ardderchog, gan sicrhau gwell dealltwriaeth o ofal maeth i annog mwy o ddarpar ofalwyr maeth i ddod ymlaen. Hoffem ddymuno pen-blwydd hapus iawn i鈥檙 Arth Faethu鈥 Roeddem yn falch iawn o gael bod yn rhan o鈥檙 dathliadau a chyfarfod 芒 rhai o鈥檔 gofalwyr maeth a phobl ifanc arbennig.鈥
Lansiwyd Ymgyrch yr Arth Faethu ym mis Ionawr 2023 mewn cydweithrediad ag Ysgolion Cynradd ar draws Sir y Fflint i godi ymwybyddiaeth o faethu yn yr awdurdod lleol ac amlinellu鈥檙 angen brys i recriwtio mwy o ofalwyr maeth yn Sir y Fflint.聽
Hyd yma, mae tair ar ddeg o ysgolion cynradd yn Sir y Fflint wedi croesawu鈥檙 Arth Faethu i鈥檞 hystafelloedd dosbarth, ac mae鈥檙 plant yn cael pecyn gweithgareddau sy鈥檔 cynnwys tedi-b锚r o鈥檙 Arth Faethu a llyfr gweithgareddau i fynd adref gyda nhw. Mae鈥檙 ymgyrch yn addysgu plant a鈥檜 teuluoedd am faethu gyda鈥檙 awdurdod lleol a鈥檙 manteision o blant sy鈥檔 derbyn gofal yn aros yn lleol.聽
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am faethu gyda鈥檆h awdurdod lleol yn Sir y Fflint neu os ydych yn ysgol gynradd sydd eisiau gwybod mwy am ymgyrch yr Arth Faethu, cysylltwch 芒 melissa.cross@flintshire.gov.uk neu ewch i www.fosterwales.flintshire.gov.uk/fosterbear.