天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith yn dechrau ar lwybr diogel Treffynnon

Published: 31/01/2024

Wythnos nesaf bydd gwaith yn dechrau i greu 鈥榣lwybr diogel鈥 newydd yn Nhreffynnon.

Mae T卯m Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth Cyngor Sir y Fflint yn falch o gadarnhau bod 拢487,000 wedi鈥檌 dderbyn i greu llwybr diogel newydd yn y dref.

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd y llwybr ar hyd yr A5026 Holway Road a Whitford Street yn cael ei ledu, gan ei wneud yn saffach ac yn fwy hygyrch i ddisgyblion, rhieni a鈥檙 gymuned ehangach.

Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus 4 wythnos ym mis Medi 2023 lle cafodd trigolion eu gwahodd i ddigwyddiad galw heibio i ddweud eu dweud ar y llwybrau sydd angen eu gwella.

Mae鈥檙 gwaith, sy鈥檔 cael ei wneud gan EE Civils, yn dechrau ddydd Llun 5 Chwefror ac mae disgwyl iddo bara 10 wythnos. I hwyluso鈥檙 gwaith mi fydd yna system oleuadau traffig dros dro mewn grym ar yr A5026 Holway Road.

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol, ond efallai y bydd oedi ar brydiau.

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes: 鈥淩oedd adborth ac ymgysylltiad y gymuned yn ystod yr ymgynghoriad yn wych, ac rydym ni鈥檔 falch o allu rhoi cynllun llwybrau mwy diogel ar waith yn Nhreffynnon.

鈥淒rwy greu amgylchedd diogel i gerddwyr gallwn annog hyd yn oed mwy o bobl i adael eu ceir gartref a dewis teithio鈥檔 fwy llesol. Bydd hynny yn ei dro yn arwain at aer glanach a strydoedd mwy diogel.

鈥淵mddiheurwn am unrhyw oedi neu amhariad y mae鈥檙 gwaith yn ei achosi.鈥

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am y gwaith yma, cysylltwch 芒 Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth Cyngor Sir y Fflint ar 01352 701234.