Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Pobl yn cael eu hannog i wneud cais am gyllid grant er budd canol trefi
Published: 19/12/2023
Mae pobl a sefydliadau lleol yn cael eu hannog i wneud cais am grant i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau i wella canol trefi Sir y Fflint.
Lansiwyd y cynllun grant ar 么l i fwy nag 拢1.1 miliwn gael ei ddyfarnu i d卯m adfywio鈥檙 Cyngor o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Caiff yr arian ei wario ar 7 prosiect sy鈥檔 anelu at wella canol trefi Bwcle, Cei Connah, Y Fflint, Treffynnon, Yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn o leiaf 拢500 ac uchafswm o 拢10,000 tuag at ddigwyddiadau a gweithgareddau a fydd yn gwneud canol eu trefi鈥檔 fwy bywiog. Disgwylir i ymgeiswyr ddod o hyd i o leiaf 20 y cant o鈥檙 gost gyffredinol a bydd 80 y cant o gyfanswm y gost ar gael o鈥檙 cyllid grant.
Dywedodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a鈥檙 Economi: 鈥淥s ydych yn angerddol am ganol eich tref neu gymuned, byddwn yn eich annog i wneud cais. Bydd y gweithgareddau a鈥檙 digwyddiadau hyn o fudd mawr i ganol ein trefi ac yn dod 芒 phobl at ei gilydd.
鈥淒ros y blynyddoedd diwethaf mae canol trefi wedi gweld gostyngiad yn nifer eu hymwelwyr a bydd y cyllid hwn yn helpu i fywiocau ein cymunedau eto.鈥
Bydd y ceisiadau yn cael eu cyflwyno i baneli misol a fydd yn eu hasesu a鈥檜 hystyried, fodd bynnag, mae鈥檙 cyllid yn gyfyngedig felly fe鈥檆h cynghorir i wneud cais yn gynnar i osgoi cael eich siomi.
Un o鈥檙 buddiolwyr a dderbyniodd gyllid ar gyfer gweithgareddau yn yr Wyddgrug yw Outside Lives, a ddechreuodd gyda digwyddiad Nadoligaidd llwyddiannus a ddenodd dros 1,000 o bobl. Roedd amryw o weithgareddau鈥檔 cael eu cynnig i鈥檙 holl deuluoedd, gan gynnwys sinema dros dro yng Nghanolfan Daniel Owen.
Dywedodd Lucy Powell o Outside Lives: 鈥淩ydym yn hynod falch o gyhoeddi鈥檙 fenter gyffrous hon sydd 芒鈥檙 nod o fywiocau canol tref yr Wyddgrug gyda chyfres o ddigwyddiadau ymgysylltiol o dan y thema 鈥楴id oes raid iddo gostio鈥檙 Ddaear鈥. Mae鈥檙 prosiect cyffrous hwn yn ymateb i ddymuniad y gymuned i gael gweithgareddau mwy fforddiadwy, cynaliadwy ac ecogyfeillgar i wella lles cyffredinol y gymuned.
鈥淒iolch i gyllid gan D卯m Adfywio Cyngor Sir y Fflint, bydd digwyddiadau鈥檔 cael eu cynnal ar gyfer pobl o bob oedran a gallu. Gallwn eich sicrhau y bydd t卯m Outside Lives yn mynd ati i wneud y digwyddiadau yn rhai bythgofiadwy.鈥
Cliciwch am fwy o wybodaeth am y cynllun grant neu e-bostiwch regeneration@flintshire.gov.uk
Am fwy o wybodaeth gyffredinol am y Rhaglen Fuddsoddi Canol Trefi, cliciwch .