Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Annog busnesau Sir y Fflint i wneud y mwyaf o gyfleoedd am gymorth
Published: 08/12/2023
Caiff busnesau lleol eu hannog i wneud y mwyaf o鈥檙 cyfleoedd am gyllid a chymorth sydd ar gael trwy nifer o brosiectau a dderbyniodd gyfran o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae cymorth ariannol, yn ogystal 芒 chyngor busnes, cynllunio busnes pwrpasol a chyfleoedd ar gyfer rhwydweithio, rhannu gwybodaeth a chydweithio ar gael i fusnesau, sy鈥檔 amrywio o gwmn茂au gweithgynhyrchu mawr i fusnesau bach a chanolig, mentrau cymdeithasol, manwerthwyr canol y dref a gweithredwyr twristiaeth.
Mae sawl prosiect wedi鈥檜 cynllunio i gynorthwyo busnesau 芒鈥檜 strategaethau datgarboneiddio, gwella cysylltedd a thechnoleg ddigidol neu fuddsoddi mewn technoleg er mwyn gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd. Mae cymorth ar gael hefyd i helpu busnesau i arloesi a chyflwyno dulliau newydd o weithio a chynnyrch newydd.
Bydd nifer o brosiectau yn helpu cyflogwyr i nodi鈥檙 bylchau o ran sgiliau yn eu sefydliad ac argymell atebion priodol ar gyfer hyfforddiant, addysg a throsglwyddo gwybodaeth.
Mae cymorth mwy penodol ar gael i annog busnesau i fuddsoddi mewn profiadau ac isadeiledd twristiaeth a鈥檜 galluogi i archwilio marchnadoedd newydd. Cynhigir hyfforddiant a chymorth un-i-un pwrpasol ar gyfer busnesau canol y dref. Mae yna brosiect penodol ar gyfer edrych ar gryfhau鈥檙 sector garddwriaethol lleol.
Meddai鈥檙 Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a鈥檙 Economi: 鈥淢ae gan y prosiectau hyn y potensial i gefnogi busnesau Sir y Fflint yn fawr a鈥檜 helpu i dyfu a pharhau鈥檔 gystadleuol. Fodd bynnag, dim ond tan ddiwedd y flwyddyn nesaf y mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 prosiectau hyn ar gael, felly byddwn yn annog busnesau i fanteisio ar y cyfleoedd hyn nawr, cyn i amser, neu鈥檙 cyllid, ddod i ben.鈥
Mae鈥檙 prosiectau sydd wedi鈥檜 cynllunio i gefnogi busnesau Sir y Fflint yn cynnwys:
路听听听听听听听听 Cyflymu Datgarboneiddio a Chynhyrchiant drwy Dechnoleg a Sgiliau (ADAPTS)
路听听听听听听听听 Dyfodol Cynaliadwy Datgarboneiddio Sir y Fflint (FAST)
路听听听听听听听听 Cronfa Sir y Fflint
路听听听听听听听听 Academi Ddigidol Werdd Sir y Fflint
路听听听听听听听听 Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Thwristiaeth
路听听听听听听听听 Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru
路听听听听听听听听 Cyfleoedd Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru
路听听听听听听听听 Garddwriaeth Cymru
路听听听听听听听听 Rhwydwaith Sgiliau ac Arloesi Gogledd Ddwyrain Cymru
路听听听听听听听听 Cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesedd
Ceir rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, gan gynnwys manylion cyswllt a chymhwysedd ar gyfer yr holl brosiectau uchod .