Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynigion i wneud cofebion Sir y Fflint yn ddiogel
Published: 07/12/2023
Gwelwyd bod cannoedd o gerrig beddi a chofebion ar draws Sir y Fflint yn anniogel a bod angen gwelliannau diogelwch arnynt.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am tua 20,000 o gerrig beddi neu gofebion o amrywiaeth o siapiau a meintiau ac mae dyletswydd arno i gynnal a chadw ei dir claddu mewn cyflwr da a diogel.
Fodd bynnag, oherwydd diffyg cofnodion a/neu aelodau鈥檙 teulu sy鈥檔 fyw, mae tua 700 o gofebion ym mynwentydd Sir y Fflint bellach y bernir eu bod yn anniogel.
Yn ogystal 芒 chofebion anniogel, mae ymylfeini sy鈥檔 amgylchynu perimedr rhai beddau hefyd yn dadfeilio, ac mae perygl i rhywun faglu drostynt.
Caiff pob carreg fedd eu profi unwaith bob 3 blynedd er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel a sefydlog. Caiff cofebion a cherrig beddi sy鈥檔 rhydd neu鈥檔 ansefydlog ac sy鈥檔 peri perygl o anaf i ymwelwyr neu weithwyr, eu cynnal dros dro gan bolion pren. Cysylltir 芒 pherchnogion y beddau, os ydynt yn hysbys, a gofynnir iddynt drwsio鈥檙 bedd.
Fodd bynnag, mae angen datrysiad mwy parhaol bellach oherwydd bod nifer gynyddol o gofebion y bernir eu bod yn anniogel ac oherwydd y costau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 mesurau adferol dros dro.
Gofynnir i Gynghorwyr gymeradwyo dull amgen a pharhaol o sicrhau bod y cofebion yn ddiogel os na ch芒nt eu trwsio gan berchennog cofrestredig y bedd, yn ogystal 芒 sicrhau bod ymylfeini peryglus yn ddiogel.
Y dewis a ffefrir yw mabwysiadu鈥檙 dull 鈥榩alu鈥 er mwyn sefydlogi'r cofebion. Yn ystod y broses hon, caiff cofeb ei symud o鈥檌 lleoliad ar ben y bedd, caiff twll tua 18 modfedd o ddyfnder ei balu, a chaiff rhan o鈥檙 garreg fedd ei chladdu yn y twll. Yna caiff y twll ei lenwi 芒 phridd, i sicrhau bod y gofeb yn sefydlog eto. Mae鈥檙 dull hwn yn caniat谩u i鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 arysgrifau ar y garreg fedd, os nad y cyfan, i fod yn weladwy.
Gofynnir i Aelodau hefyd ystyried cynnig i fynd i鈥檙 afael 芒 cherrig beddi anniogel trwy eu hailosod o fewn strwythur y bedd.
Pe na bai鈥檙 Cyngor yn mabwysiadu dull newydd, datgelodd adroddiad y byddai cynnal pob cofeb gyda pholion pren yn costio tua 拢5,850 bob dwy i dair blynedd.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor a鈥檙 Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a鈥檙 Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol: 鈥淩ydym yn sylweddoli bod hwn yn bwnc emosiynol a sensitif i deuluoedd a chaiff unrhyw waith ei wneud mewn modd parchus. Wrth i amser basio, yn anffodus bydd mwyfwy o gofebion yn dadfeilio felly mae鈥檔 rhaid i ni fabwysiadu polisi newydd sy鈥檔 caniat谩u i ni gadw ein mynwentydd yn ddiogel a hygyrch i bawb.鈥
Bydd penderfyniad yn cael ei wneud gan y Cabinet dros yr wythnosau nesaf.