Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymateb gwych i arolwg addysg Brychdyn a Saltney
Published: 05/12/2023
Mae dros 1,500 o bobl wedi dweud eu dweud am ddyfodol addysg ym Mrychdyn a Saltney.
Cwblhaodd Gyngor Sir y Fflint ymarfer ymgysylltu cynnar dros dymor yr haf i gasglu barn y gymuned a siapio dyfodol darpariaeth addysg yn yr ardal.
Cynhaliwyd yr arolwg hwn, a gafodd ei rannu gydag ystod eang o bobl yn y gymuned, o ddydd Mawrth, 6 Mehefin 2023 tan ddydd Llun, 3 Gorffennaf 2023, a chasglwyd 1,503 o ymatebion gan y cyhoedd.聽 Cafwyd lefel uchel o ymgysylltiad gan ddisgyblion yr ymgynghorwyd 芒 hwy ar y cynlluniau hefyd.
Cyflwynwyd nifer o opsiynau posibl i ymatebwyr:
1.听听听听听听 Gwneud dim - cadw ysgolion Brychdyn a Saltney fel ag y maent.
2.听听听听听听 Gwneud y lleiafswm i gael gwared 芒鈥檙 么l-groniad o broblemau cynnal a chadw.
3.听听听听听听 Ailwampio ac ymestyn cyfleusterau presennol (lle bo modd).
4.听听听听听听 Adeiladu Campws 3 - 16 i gynnwys Ysgol Uwchradd Dewi Sant a chyfuno Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood.
5.听听听听听听 Adeiladu Ysgol Gydol Oes 3 - 16.
6.听听听听听听 Adeiladu Ysgol Uwchradd 11-16 newydd i Ysgol Uwchradd Dewi Sant ar safle Bretton ac adeiladu Ysgol Gynradd 3-11 newydd ar hen safle Ysgol Uwchradd Dewi Sant.
7.听听听听听听 Cau Ysgol Uwchradd Dewi Sant
Roedd y mwyafrif (443) o bobl yn anghytuno鈥檔 gryf gydag opsiwn 1 i wneud dim byd a chadw ysgolion fel ag y maent.聽 Opsiwn 6 oedd yr opsiwn a ffefrir o ran nifer yr ymatebion 鈥榗ytuno鈥檔 gryf鈥 (383), fodd bynnag, roedd 205 o bobl yn anghytuno鈥檔 gryf.
Opsiwn 3 oedd yr opsiwn a ffefrir yn gyffredinol gyda 332 o ymatebwyr yn anghytuno鈥檔 gryf a 235 yn cytuno.聽 Opsiwn 7 oedd y cynnig a ffefrir leiaf o bell ffordd, gyda 717 o ymatebwyr yn anghytuno鈥檔 gryf a dim ond 52 yn cytuno鈥檔 gryf.
Canfuwyd mai cyflwr adeiladau a safon cyfleusterau oedd y broblem fwyaf pan ofynnwyd beth oedd yn peri鈥檙 pryder mwyaf am eu hysgol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Mared Eastwood: 鈥淒iolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg ymgysylltu cynnar.聽 Roedd yr ymateb cyffredinol yn gadarnhaol ond mae consensws cyffredinol yn y gymuned bod angen newid ac y byddai buddsoddiad yn ddymunol.聽
鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint yn ymrwymo i ddarparu addysg a chyfleoedd o ansawdd uchel i ddisgyblion.聽 Rydym yn gweithio i ddatblygu cynllun sy鈥檔 darparu strategaeth newydd ar gyfer addysg yn yr ardal sy鈥檔 gynaliadwy ac yn fforddiadwy.鈥
Bydd canlyniad yr arolwg yn mynd i鈥檙 Cabinet i鈥檞 drafod gan aelodau yn y misoedd nesaf.