Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgolion yn mynd i鈥檙 afael ag absenoldebau anawdurdodedig
Published: 30/11/2023
Cyhoeddodd penaethiaid yn Sir y Fflint 99 o ddirwyon yn ystod 2022/23 er mwyn ceisio mynd i鈥檙 afael ag absenoldebau anawdurdodedig cyson mewn ysgolion.
Mae cofnodion yn cadarnhau bod penaethiaid a gwasanaethau cefnogi wedi defnyddio鈥檙 pwerau statudol sydd ar gael iddynt trwy gyhoeddi 99 Rhybudd Cosb Benodedig rhwng 拢60 a 拢120.
Mae鈥檔 ofyniad cyfreithiol bod rhieni/gofalwyr yn sicrhau bod eu plant yn mynychu鈥檙 ysgol. Pan fo absenoldebau cyson yn parhau, gall ysgolion gyhoeddi dirwy.
O鈥檙 99 o ddirwyon a gyhoeddwyd, cafodd bron eu hanner eu talu o fewn yr amserlen a roddwyd. Gorchmynnodd y Gwasanaeth Lles Addysg bod y sawl na dalodd y ddirwy yn mynd i鈥檙 llys. Hyd yma, mae鈥檙 Llys Ynadon wedi rhoi 8 dirwy o 拢660.
Dywedodd Uwch Ymgynghorydd Dysgu Cyngor Sir y Fflint, John Grant, fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i gefnogi plant a theuluoedd sydd 芒 lefel bresenoldeb isel. Fodd bynnag, pan na fydd yr ysgol wedi awdurdodi鈥檙 absenoldebau, polisi鈥檙 Gwasanaeth Lles Addysg yw cyfeirio pob Rhybudd Cosb Benodedig nad ydynt wedi鈥檜 talu, i鈥檙 llys.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Mared Eastwood: 鈥淢ae鈥檔 galonogol bod cynifer o rieni/gofalwyr yn derbyn nad yw absenoldebau anawdurdodedig yn briodol a鈥檜 bod wedi talu鈥檙 ddirwy鈥檔 brydlon.
鈥淔el Cyngor, rydym yn dymuno ei gwneud yn glir ei fod yn hanfodol bod rhieni a gofalwyr yn ymwybodol bod presenoldeb yn yr ysgol yn ofyniad cyfreithiol. Yn ogystal ag effeithio ar addysg y plentyn, mae diffyg presenoldeb hefyd yn gallu cael effaith negyddol ar ddatblygiad eu sgiliau cymdeithasol a鈥檜 hiechyd meddwl a鈥檜 lles.
鈥淏ydd yr Awdurdod Lleol yn parhau 芒鈥檌 bolisi i sicrhau bod absenoldeb anawdurdodedig yn cael ei herio yn 2023/24 er mwyn cefnogi plant Sir y Fflint i gael y cyfleodd gorau posib mewn bywyd.鈥