Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Buddsoddiadau hirdymor wedi鈥檜 nodi yn Rhaglen Gyfalaf Sir y Fflint
Published: 15/11/2023
Gofynnir i gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo鈥檙 Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2024/25 鈥 2026/27.
Mae鈥檙 rhaglen arfaethedig yn cynnwys amrywiaeth eang o fuddsoddiadau hirdymor fel darparu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd 芒 chyfleusterau gofal plant integredig, cartref gofal newydd a fydd yn cynyddu nifer y gwelyau ac yn creu gwytnwch gwasanaeth, a chanolfan anableddau dysgu integredig, yn ogystal 芒 chyllid isadeiledd i gefnogi cynnal a chadw ysgolion a'r rhwydwaith priffyrdd ledled y Sir.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant a Chymunedau Cadarn yn cynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael: 鈥淓r bod y rhaglen yn parhau i fod yn uchelgeisiol, mae wedi鈥檌 hystyried yn ofalus i wneud yn fawr o鈥檙 cyllid cyfalaf allanol y mae鈥檙 Cyngor yn ei gael a lleihau ei ofynion benthyca ar yr un pryd. Mae tri chynllun yn y rhaglen yn cael eu cefnogi gan Grant gwerth 拢28m gan Lywodraeth Cymru.鈥
Mae鈥檙 rhaglen arfaethedig hefyd yn cynnwys rhaglen Re:Fit a datblygu darpariaeth gofal preswyl i blant, y gofynnir i aelodau eu cefnogi.
Bydd y Fframwaith Re:Fit yn galluogi鈥檙 Cyngor i gyflymu strategaeth Newid Hinsawdd y Cyngor y cafodd ei mabwysiadu ym mis Chwefror 2022 drwy 么l-osod adeiladau ac asedau 芒 mesurau a fydd yn lleihau鈥檙 defnydd o ynni, lleihau costau a charbon, a bydd yn cael ei hariannu ar sail gwario i arbed.
Mae鈥檙 angen i ddatblygu gofal preswyl i blant yn Sir y Fflint yn cael ei arwain gan ddeddfwriaeth ac angen. Bydd y ddarpariaeth newydd yn sicrhau bod digon o leoliadau diogel, cefnogol ac o ansawdd uchel i blant sy'n derbyn gofal. Bydd lleoli plant mewn ardal leol yn hytrach nag y tu allan i'r sir yn caniat谩u iddyn nhw gynnal cysylltiadau 芒 theulu, ffrindiau, a'u rhwydweithiau cymorth.
Bydd y cyfleuster archif ar y cyd arfaethedig ar gyfer Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych wedi鈥檌 leoli yn Sir y Fflint a bydd yn disodli鈥檙 cyfleusterau presennol nad ydynt yn addas sydd wedi鈥檜 lleoli mewn sawl adeilad ar draws y ddau Gyngor.听 Bydd cyfleuster modern newydd yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cadw ei achrediad, bydd y prosiect yn cael ei ariannu trwy grant allanol ac yn cael cyfraniadau ariannol gan y ddau Gyngor a fydd yn gweithredu'r cyfleuster newydd dan gytundeb gwasanaethau ar y cyd.
Bydd y rhaglen yn cael ei hadolygu yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 16 Tachwedd cyn ei chyflwyno i鈥檙 Cabinet ar 21 Tachwedd.