天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn elwa o fuddsoddiad cyllid Llywodraeth y DU

Published: 07/11/2023

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi fod 23 o brosiectau wedi derbyn cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac yn derbyn ychydig dros 拢11 miliwn.

Gwahoddodd y Cyngor, ynghyd ag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru, ymgeiswyr i gyflwyno cynigion prosiect yn 么l ym mis Chwefror. Derbyniwyd gormodiaeth o ymgeiswyr, gyda 90 o geisiadau yn gwneud cais am bron i deirgwaith y dyraniad ar gyfer Sir y Fflint.

Yn dilyn cyfres o ymarferion gwerthuso ac asesu llym, mae鈥檙 rhestr fer derfynol wedi cael ei chymeradwyo ac mae鈥檙 prosiectau wedi cael caniat芒d i symud ymlaen.

Bydd amrywiaeth eang o brosiectau yn cael eu darparu dros y 14 mis nesaf sy鈥檔 cyd-fynd 芒 phrif flaenoriaethau鈥檙 Gronfa Ffyniant Gyffredin sef Cymunedau a Lle, Cefnogi Busnesau Lleol, Pobl a Sgiliau yn ogystal 芒 gwella rhifedd oedolion trwy鈥檙 rhaglen Lluosi.听

Mae鈥檙 rhain yn cynnwys prosiectau a fydd yn:

  • Gwella isadeiledd ac amgylchedd canol trefi, cymunedau gwledig a chyrchfannau arfordirol Sir y Fflint.
  • Gwella sgiliau pobl, iechyd meddwl a lles a lleihau rhwystrau tuag at gyflogaeth, addysg a hyfforddiant.
  • Galluogi ymchwil a buddsoddiad busnes mewn meysydd megis digideiddio, cysylltedd, arloesedd, datgarboneiddio a throsglwyddo gwybodaeth.
  • Cefnogi twf y sector twristiaeth a gwella cyfleusterau ac atyniadau i dwristiaid.
  • Adeiladu cadernid cymunedol, cynyddu cyfranogiad cymunedol a meithrin synnwyr o falchder yn lleol.

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a鈥檙 Economi, y Cynghorydd David Healey: 鈥淕an ddefnyddio Cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, rydw i鈥檔 falch bod gan y prosiectau hyn y potensial i wneud cyfraniad cadarnhaol sylweddol i gymunedau ac economi Sir y Fflint a helpu鈥檙 sir i ddod yn fwy ffyniannus ac yn lleoliad bywiog i bobl fyw, astudio, gweithio ac ymweld.鈥

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Sir y Fflint a manylion y 23 o brosiectau sydd wedi eu cymeradwyo yn:

/en/Business/Shared-Prosperity-Fund/Home.aspx

Nodyn i olygyddion:

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae鈥檔 darparu 拢2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025.听 Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i