Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Achub y Stryd Fawr
Published: 08/11/2023
Bydd cyfle i fusnesau yn Sir y Fflint gael cefnogaeth wedi鈥檌 theilwra ar eu cyfer mewn ymgais i wella canol trefi鈥檙 sir.
Daw鈥檙 cynllun newydd ar 么l i fwy nag 拢1 miliwn gael ei ddyfarnu i d卯m adfywio鈥檙 Cyngor o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Yn gynharach eleni, cynhaliodd y t卯m dendr i ddod o hyd i bartner i ddarparu cefnogaeth un-i-un i fusnesau, a dyfarnwyd y contract i SaveTheHighstreet.org 鈥 mudiad a lansiwyd yn 2016 gyda gweledigaeth newydd, gyffrous ar gyfer y stryd fawr.
Bydd y cynllun peilot ar fynd tan fis Ebrill a鈥檙 nod fydd cynghori 15 o fusnesau mewn 7 tref 鈥 yr Wyddgrug, Bwcle, y Fflint, Treffynnon, Cei Connah, Shotton a Queensferry.
Dywedodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a鈥檙 Economi: 鈥淒yma鈥檙 tro cyntaf mae SaveTheHighstreet wedi gweithio gydag awdurdod lleol yng Nghymru ac rydyn ni鈥檔 edrych ymlaen at weld beth maent yn gallu ei gynnig i Sir y Fflint.听
鈥淏ydd y cynllun peilot yn ein galluogi ni i weithio gyda 15 o fusnesau lleol i ddechrau, ond os yw鈥檙 prosiect yn llwyddiannus, gobeithio y gallwn ei ymestyn i helpu mwy. Fel Cyngor, rydyn ni鈥檔 ymroi i fuddsoddi yng nghanol ein trefi er mwyn cenedlaethau鈥檙 dyfodol.鈥
Dywedodd Alex Schlagman, un o鈥檙 partneriaid a sefydlodd SaveTheHighStreet.org: 鈥淢ae hwn yn gyfle cyffrous i ni gael effaith gadarnhaol ar fusnesau lleol a stryd fawr trefi ar hyd a lled Sir y Fflint dros y misoedd nesaf.听
鈥淕an adeiladu ar ein profiad o ddarparu dwsinau o raglenni cefnogi llwyddiannus mewn rhannau eraill o鈥檙 DU, mae鈥檙 t卯m i gyd yn falch o fod yn lansio ein partneriaeth gyntaf gyda Chyngor yng Nghymru, sef Cyngor Sir y Fflint.鈥
Gall busnesau sydd wedi鈥檜 lleoli yng nghanol y 7 tref ddarganfod mwy am y prosiect mewn digwyddiad lansio ddydd Mercher 22 Tachwedd 2023 am 5pm yng Ngwesty Flint Mountain neu drwy gysylltu 芒 regeneration@flintshire.gov.uk
听