Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dyfarnu cyllid i gysylltu arfordir a chefn gwlad Sir y Fflint
Published: 02/11/2023

Bydd gweledigaeth newydd yn cael ei chreu ar gyfer mannau gwledig ac arfordirol Sir y Fflint, diolch i fwy na 拢335,000 o gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i raglen Ffyniant Bro鈥檙 Llywodraeth, gyda鈥檙 nod o wella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, drwy fuddsoddi mewn cymunedau, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
Wedi鈥檌 gydlynu gan Gyngor Sir y Fflint, bydd y cyllid yn galluogi Sir y Fflint i symud yn agosach at weledigaeth o Barc Arfordirol Sirol. Mae鈥檙 prosiect yn cydnabod pwysigrwydd creu amgylcheddau diogel, naturiol i gefnogi lles pobl, a gwarchod amgylchedd a bioamrywiaeth y dirwedd arfordirol a gwledig cyfoethog sydd gan Sir y Fflint i鈥檞 gynnig.
Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a鈥檙 Economi Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey: 鈥淒yma brosiect cyffrous ac uchelgeisiol sy鈥檔 bwriadu darparu鈥檙 sylfeini ar gyfer Parc Arfordirol Sir y Fflint sy鈥檔 hygyrch, gan ddathlu amgylchedd naturiol a threftadaeth arfordir Cymru.
鈥淏ydd y prosiect yn parhau i adeiladu ar gyflawniad prosiectau adfywio, cadwraeth a mynediad dros sawl blwyddyn.听 Mae鈥檔 cynnwys Llwybr Arfordir Cymru, a bydd yn gwella cysylltedd i鈥檙 amgylchedd naturiol ar gyfer cymunedau lleol ac ymwelwyr i Sir y Fflint.
鈥淢ae gwarchod cynefinoedd naturiol yn bwysicach nag erioed. Mae gennym 25 milltir o arfordir, ac rydym eisiau sicrhau ein bod elwa ohonynt am flynyddoedd i ddod.听 Bydd y cyllid yn ein galluogi i greu cynllun strategol i reoli, cynnal a gwella ein harfordir, a gwella cysylltiadau i gefn gwlad, ar gyfer pawb i鈥檞 mwynhau - heddiw, ac er lles cenedlaethau鈥檙 dyfodol.鈥
Bydd cefnogaeth ar gyfer asedau treftadaeth diwylliannol a naturiol hefyd. Bydd y prosiect yn cynnwys gwelliannau i alluogi pobl i fynediad gwell i鈥檞 amgylchedd naturiol lleol, a helpu i leihau unigedd, i bobl hyn a phobl ag anableddau鈥檔 benodol. Bydd y cyllid yn helpu i gefnogi cyfranogiad cymunedol ac ymgysylltiad gyda chymunedau i ofyn am eu mewnbwn ar sut i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 camau nesaf tuag at flaenoriaethau gwelliannau.
Elfen allweddol o鈥檙 prosiect yw cydweithio gyda phartneriaid a鈥檙 gymuned, a drwy gydweithio gyda sefydliadau gwirfoddol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bydd y prosiect yn datblygu gyda chyfranogiad pawb. Byddwn yn gweld coed newydd yn cael eu plannu, llwybrau newydd yn cael eu creu, asedau treftadaeth yn cael eu gwella a chyfleoedd gwirfoddol yn cael eu creu i helpu pobl gynyddu sgiliau, magu hyder a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol.
听
Rhagor o wybodaeth:
Dewch o hyd i ragor am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU:
Gwasanaeth Cefn Gwlad ac Arfordirol CSFf:听听
