Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Nodi ffynhonnell arogl Sandycroft/Queensferry
Published: 12/10/2023
Mae Cyngor Sir y Fflint nawr y gallu darparu rhagor o wybodaeth am yr 鈥榓rogl鈥 sydd wedi bod yn peri pryder yn ardaloedd Sandycroft, Queensferry a Mancot o fewn y sir.
Yn dilyn ymchwiliad trylwyr, gall swyddogion gadarnhau mai ffynhonnell debygol yr arogl yw Systemau Carthffosiaeth Dwr Gwastraff a Gwaith Trin Dwr Gwastraff Queensferry, sy鈥檔 cael eu rheoli gan Dwr Cymru.
Mae swyddogion mewn cyswllt uniongyrchol gyda Dwr Cymru mewn perthynas 芒鈥檙 mater hwn, ac maent wedi sicrhau鈥檙 Cyngor eu bod yn bwriadu datrys problem yr arogl. Maent wedi gofyn bod unrhyw gwynion pellach yn cael eu cyfeirio atynt drwy ffonio 0800 0853968 neu ar-lein .
Anogir y sawl sydd wedi鈥檜 heffeithio i barhau i gofnodi鈥檙 adegau maent yn cael eu heffeithio gan yr arogl, a鈥檌 adrodd i Dwr Cymru i鈥檞 helpu gyda鈥檜 hymchwiliadau.
Yn y cyfamser, bydd swyddogion o Gyngor Sir y Fflint yn parhau i weithio gyda Dwr Cymru i fonitro cynnydd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell: 鈥淗offwn ddiolch i鈥檙 preswylwyr a鈥檙 busnesau am eu hamynedd a鈥檜 cefnogaeth. Rydym yn deall fod hyn wedi cymryd peth amser i gyrraedd y pwynt hwn, ond rydym eisiau eich sicrhau bod y Cyngor wedi bod yn gwneud popeth y gallant i ganfod y ffynhonnell.
鈥淲rth symud ymlaen, byddwn yn gweithio gyda Dwr Cymru i sicrhau bod y materion yn cael eu datrys. Yn y cyfamser, parhewch i wneud nodyn o bryd mae鈥檔 effeithio eich ardal, a dwyster yr arogl, a鈥檌 adrodd yn uniongyrchol i Ddwr Cymru.鈥