天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Annog pleidleiswyr Sir y Fflint i wirio rheolau etholiadau newydd

Published: 11/10/2023

Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau fod gan bleidleiswyr Sir y Fflint gerdyn adnabod 芒 llun, cyn yr etholiad nesaf.

Mae Deddf Etholiadau 2022 nawr yn gofyn bod pob un sy鈥檔 pleidleisio yn etholiadau Seneddol a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd y DU yn dangos cerdyn adnabod 芒 llun wedi鈥檌 gymeradwyo yn yr orsaf bleidleisio.

Mae Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, a鈥檙 Swyddog Canlyniadau, Neal Cockerton yn annog preswylwyr i fod yn ymwybodol o鈥檙 newidiadau a pharatoi cyn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd y flwyddyn nesaf.

Dywedodd: Mae cerdyn adnabod 芒 llun nawr yn ofyniad er mwyn pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, felly mae鈥檔 hollbwysig bod preswylwyr yn paratoi. Os nad oes gennych gerdyn adnabod derbyniol, dylech wneud cais am Dystysgrif Awdurdod i Bleidleisio am ddim.

鈥淢ae cael ffurf o hunaniaeth yn hollbwysig i sicrhau bod etholiadau yn hygyrch i bob pleidleisiwr cymwys. Os oes angen cymorth arnoch gyda hyn, gallwch ymweld ag un o swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu. Peidiwch 芒 cholli cyfle i leisio barn ar bwy sy鈥檔 eich cynrychioli.鈥

Bydd aelodau鈥檙 Cabinet yn nodi鈥檙 newidiadau mewn cyfarfod ddydd Mawrth, 17 Hydref ac yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith sy鈥檔 cael ei gynnal gan y Cyngor i hyrwyddo Cerdyn Adnabod Pleidleisiwr.

Ers 16 Ionawr, 2023, mae etholwyr sydd wedi cofrestru wedi gallu gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod i Bleidleisio am ddim, i鈥檞 ddefnyddio yn lle cerdyn adnabod 芒 llun. Gallwch wneud cais ar-lein .

Gallwch chi gael cymorth i dynnu鈥檆h llun a鈥檌 uwchlwytho yn un o swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu hefyd. Mae staff wedi derbyn gwybodaeth ar y gofyniad newydd. Dewch o hyd i鈥檆h swyddfa agosaf .

Mae adroddiad i aelodau Cabinet yn nodi鈥檙 gwaith sydd eisoes wedi cael ei gynnal i hysbysu preswylwyr. Hyd yma, mae mwy na 71,000 o aelwydydd yn Sir y Fflint wedi derbyn gwybodaeth uniongyrchol am Brawf Adnabod i Bleidleisio, dros e-bost neu drwy鈥檙 post.聽聽 Mae鈥檔 dangos hefyd, o鈥檙 wythnos yn gorffen 28 Gorffennaf, mai dim ond 99 cais am Brawf Adnabod i Bleidleisiwyd a gafodd Cyngor Sir y Fflint.

Dros y misoedd nesaf, bydd rhagor o hyrwyddo yn digwydd, gyda鈥檙 bwriad o gynnwys taflen wybodaeth gyda biliau Treth y Cyngor ym mis Mawrth 2024. Bydd etholwyr yn derbyn cerdyn pleidleisio hefyd cyn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd y flwyddyn nesaf, a fydd yn cynnwys gwybodaeth am y gofynion Prawf Adnabod i Bleidleisio newydd.