Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae deddfwriaeth 20mya Llywodraeth Cymru bellach mewn grym
Published: 18/09/2023
Bu gweithwyr y Cyngor yn gweithio drwy鈥檙 nos, o nos Sadwrn hyd oriau m芒n fore dydd Sul, yn tynnu鈥檙 sticeri 30mya fel bod arwyddion 20mya i'w gweld yn glir i yrwyr a fydd yn gyrru fore dydd Sul.聽聽
Yn dilyn adolygiad o ffyrdd Sir y Fflint, gan ddefnyddio meini prawf lleoliad 20mya a meini prawf eithriadau Llywodraeth Cymru, nodwyd a allai fod yn 鈥榚ithriadau鈥� i ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru ac a fydd yn newid yn 么l i fod yn 30mya. Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol dros yr haf ynghylch y rhain.
Yn ogystal 芒鈥檙 鈥榚ithriadau鈥� nodwyd nifer fach o ffyrdd hefyd lle gallai fod yn bosibl ac y bydden nhw hefyd yn amodol ar ymgynghoriad ffurfiol.聽
Mae'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriadau hyn wedi'u hasesu'n ddiduedd gan y Cyngor yn rhan o'r broses statudol ffurfiol.聽聽
Hyd nes y bydd y broses hon wedi'i chwblhau, nid yw'n bosibl dweud pryd, na faint o'r ffyrdd a gyflwynwyd y bydd eu terfyn cyflymder nhw鈥檔 newid a hyd nes y bydd y broses hon wedi'i chwblhau, bydd y ffyrdd hyn yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth 20mya newydd Llywodraeth Cymru.聽
Mae yna hefyd rai darnau o ffyrdd yn Sir y Fflint sydd 芒 therfyn cyflymder 30mya, ond nad oes ganddynt oleuadau stryd. Yn yr ardaloedd hyn, mae鈥檙 terfyn cyflymder wedi鈥檌 osod drwy lunio dogfen gyfreithiol o鈥檙 enw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig a elwir yn 鈥�30mya Trwy Orchymyn鈥�.聽
Mae鈥檔 bosibl bod hyn wedi鈥檌 wneud i wella diogelwch ar y ffordd, neu pan fo tref neu bentref wedi tyfu dros amser a鈥檜 bod nhw bellach y tu hwnt i hyd y colofnau goleuadau stryd gwreiddiol.聽 聽
Gellir gweld y rhestr lawn o ffyrdd 鈥�30mya Trwy Orchymyn鈥� ar .
Nid yw pob darn presennol o ffyrdd 鈥�30mya Trwy Orchymyn鈥� yn bodloni meini prawf deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru, ond pan fyddan nhw鈥檔 bodloni鈥檙 meini prawf, gan fod y terfyn cyflymder presennol wedi鈥檌 osod gan Orchymyn Rheoleiddio Traffig cyfreithiol, ni all y terfyn cyflymder newid hyd nes y caiff gorchymyn 20mya newydd ei greu, hyd nes y cynhelir ymgynghoriad arno a鈥檌 weithredu, o bosib.聽 聽
Mae鈥檙 Gorchmynion hyn wedi鈥檜 hysbysebu鈥檔 ddiweddar ac mae gwrthwynebiadau鈥檔 cael eu hystyried ar hyn o bryd.聽 Mae鈥檙 dogfennau ymgynghori ar gael ar .听听听
O ystyried faint o waith y bydd yn cael ei wneud dros y penwythnos, mae'n bosibl y bydd rhai arwyddion 30mya, a ddylai bellach fod yn 20mya, wedi'u methu. Cyn rhoi gwybod i鈥檙 Cyngor am arwydd a fethwyd, byddem ni鈥檔 gofyn i drigolion wirio鈥檙 yn gyntaf i weld a yw鈥檙 ffordd wedi鈥檌 rhestru鈥檔 鈥�30mya Trwy Orchymyn鈥�.聽