Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cais Gwesty Northop Hall Country House 鈥� Dyddiad y Pwyllgor Cynllunio
Published: 15/09/2023
Oherwydd nifer y sylwadau sydd wedi dod i law mewn perthynas 芒 chais rhif FUL/000489/23 Cais Llawn - Defnyddio gwesty a gosod llety modiwlaidd dros dro am gyfnod o hyd at 7 blynedd i ddarparu Hostel Llety Cychwynnol AASC yng Ngwesty Northop Hall Country House, Northop Hall, nid ydym ni鈥檔 gallu dilyn ein proses arferol o hysbysu dyddiad y Pwyllgor Cynllunio a鈥檙 manylion ynglyn 芒 chofrestru i siarad yn ystod y cyfarfod. Yn hytrach, rhoddir hysbysiad drwy鈥檙 datganiad hwn.

Bydd y cais cynllunio yn cael ei ystyried yn ystod cyfarfod hybrid o鈥檙 Pwyllgor Cynllunio ar 27 Medi am 1pm yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug. Mae鈥檙 manylion ynglyn 芒 sut i siarad yn y cyfarfod ar gael .听
Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael i鈥檙 cyhoedd yn Siambr y Cyngor ac felly byddwn yn blaenoriaethu鈥檙 rheiny sydd wedi cofrestru i siarad ar y ceisiadau gerbron y Pwyllgor.
Bydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio鈥檔 fyw ar wefan Cyngor Sir y Fflint a bydd copi o鈥檙 recordiad yn cael ei uwchlwytho ar wefan y Cyngor wedyn.