Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwybrau diogel i ysgolion Treffynnon - dywedwch eich dweud!
Published: 15/09/2023
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn am farn preswylwyr lleol am gynigion i weithredu isadeiledd Teithio Llesol (cerdded a beicio) ar ddau lwybr yn Nhreffynnon.
路听听听听听听听听 Mae Llwybr 1 yn gwasanaethu Ysgol Gynradd Gwenffrwd ac Ysgol Gynradd Gatholig Santes Gwenffrewi.
路听听听听听听听听 ac mae Llwybr 2 yn gwasanaethu Ysgol Treffynnon ac Ysgol Maes y Felin.
Mae鈥檙 cynigion yn seiliedig ar astudiaeth a gynhaliwyd gan ymgynghorwyr yn 2022 lle nodwyd llwybrau allweddol i bob ysgol yn seiliedig ar ble mae鈥檙 disgyblion yn byw yn ogystal ag ymweld 芒鈥檙 safle, bwrw golwg ar broblemau y mae pobl sy鈥檔 cerdded a beicio yn eu hwynebu a chael trafodaethau gyda rhai o鈥檙 ysgolion.
Gall pobl ddweud eu dweud a rhannu eu barn mewn dwy ffordd:聽
路听听听听听听听听 Bydd mwy o wybodaeth, yn cynnwys cynlluniau safle, ar gael i鈥檞 gweld ddydd Mawrth 19 Medi rhwng 1pm a 7pm yng Nghanolfan Gyswllt y Cyngor yn Nhreffynnon.
路听听听听听听听听 Bydd gwybodaeth, cynlluniau safle ac arolwg ar gael ar wefan y Cyngor rhwng dydd Llun 11 Medi a dydd Llun 2 Hydref 2023.聽
Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a鈥檙 Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes: 鈥淕an ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gynnig y ddau Lwybr Diogel pwysig yma mewn cynlluniau Cymunedol sydd 芒鈥檜 nod o wella hygyrchedd i ddisgyblion, rhieni a phreswylwyr lleol yn Nhreffynnon.聽 聽
鈥淕yda鈥檙 cynigion yma, rydym yn ceisio gwella amodau i gerddwyr a beicwyr trwy ostwng cyflymder traffig, rhoi mwy o flaenoriaeth i gerddwyr a lledu鈥檙 troedffyrdd. Ynghyd ag ychwanegu isadeiledd gwyrdd, bydd yr ardaloedd yma鈥檔 darparu amgylchedd deniadol a diogel, gan annog mwy o bobl i gerdded a beicio鈥檔 fwy aml.鈥