天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Myfyrwyr Prosiect SEARCH yn Dathlu Llwyddiant

Published: 24/08/2023

Mae grwp o fyfyrwyr Prosiect SEARCH wedi dathlu cwblhau eu hinterniaethau mewn seremoni raddio o flaen teulu a ffrindiau.

Mae鈥檙 cynllun yn interniaeth 12 mis i bobl ifanc ag anableddau dysgu neu awtistiaeth sy鈥檔 gadael addysg.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gefnogwyr balch o鈥檙 prosiect ers iddo gael ei lansio yn 2019 mewn partneriaeth ag elusen Hft, ac yn fwy diweddar, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

Mae鈥檙 rhaglen yn Sir y Fflint wedi ehangu dros y 12 mis diwethaf i gynnig 2 interniaeth, a hwn oedd y cynllun Prosiect SEARCH cyntaf yn y DU i gynnig rhaglen bwrpasol i oedolion dros 25 oed, yn ogystal ag unigolion o dan 25 oed.

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts: 鈥淩oedd yn bleser cael bod yn bresennol yn y seremoni raddio a chael clywed am y profiadau y mae鈥檙 bobl ifanc wedi鈥檜 cael fel rhan o鈥檙 prosiect.聽 Hoffwn ddiolch i bawb sy鈥檔 rhan o鈥檙 prosiect ac rwyf yn gobeithio am ganlyniadau da i鈥檙 holl ddisgyblion.鈥

Mae Prosiect SEARCH yn rhaglen interniaeth ryngwladol ar gyfer unigolion gydag anableddau dysgu a / neu awtistiaeth. Mae鈥檙 rhaglen yn defnyddio gwaith partneriaeth ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i greu interniaethau cyflogaeth 芒 chymorth o fewn amrywiaeth o leoliadau gwaith.聽 Mae鈥檙 sgiliau a鈥檙 profiadau mae interniaid yn eu cael wrth gymryd rhan yn y rhaglen yn eu cynorthwyo 芒 gwneud trosglwyddiad cadarnhaol i amgylchedd gwaith cyflogedig.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae Prosiect SEARCH yn tynnu sylw at sgiliau a thalent ein pobl ifanc lleol. Yn Sir y Fflint, rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i weithio, ennill cyflog, datblygu eu sgiliau a bod yn rhan o鈥檙 gymuned.聽

鈥淒a iawn i鈥檙 holl raddedigion ac rydym yn dymuno pob lwc iddyn nhw yn y dyfodol.鈥

Mae interniaid blaenorol o Brosiect SEARCH yn Sir y Fflint wedi mynd ymlaen i ennill rolau llwyddiannus mewn busnesau lleol yn ogystal 芒鈥檙 Cyngor, ac mae rhai o鈥檙 interniaid sy鈥檔 graddio eleni eisoes wedi sicrhau cyflogaeth. Mae cefnogaeth ddilynol yn cael ei darparu gan hyfforddwyr cyflogadwyedd i gynorthwyo graddedigion 芒 chwilio am waith 芒 th芒l.