Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu Canlyniadau TGAU
Published: 24/08/2023
Mae myfyrwyr yn Sir y Fflint yn dathlu heddiw wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau TGAU.聽
Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood - Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: 鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn falch iawn o鈥檔 disgyblion blwyddyn 11 am wneud yr holl waith caled i gael y graddau maen nhw wedi eu cael. Anfonaf fy llongyfarchiadau cynhesaf atynt a dymuno pob llwyddiant iddynt yn eu camau nesaf. Hoffwn ddiolch i鈥檙 holl staff yn yr ysgolion sydd wedi gweithio mor galed i alluogi i鈥檙 myfyrwyr lwyddo ac i鈥檙 holl rieni a gofalwyr sydd wedi darparu cefnogaeth ac anogaeth i'w plant.聽
Dywedodd Claire Homard Prif Swyddog, Addysg ac Ieuenctid:聽鈥淗offwn longyfarch ein dysgwyr sy鈥檔 derbyn eu canlyniadau heddiw. Fe hoffwn hefyd gydnabod gwaith y rhieni a gofalwyr yn cefnogi a thywys eu plant, a diolch iddynt am weithio mewn partneriaeth gyda鈥檔 hysgolion.聽
"Mae ein hysgolion wedi gweithio鈥檔 galed i sicrhau bod ein disgyblion yn cael pob cyfle i lwyddo a hoffwn ddiolch iddynt am bopeth y maent yn ei wneud. Rydw i鈥檔 gwybod y byddant yn parhau i ddarparu cefnogaeth a chyngor i ddysgwyr wrth iddynt wneud penderfyniadau am lwybrau鈥檙 dyfodol a pharatoi ar gyfer mis Medi. Rydyn ni鈥檔 gwybod y gall diwrnodau canlyniadau fod yn gyfnod anodd i rai pobl ifanc, a byddwn yn annog unrhyw berson ifanc a allai fod yn ei chael hi鈥檔 anodd, i ofyn am gymorth.鈥